Enw 'Gwyndod' ar gyfer orsaf newydd Wylfa

Friday, 26 June 2026 12:52

By Ystafell Newyddion MônFM

GBE-N

Gwyndod fydd enw'r datblygiad niwclear bach newydd yn Wylfa.

Gwnaed cannoedd o awgrymiadau gan drigolion Ynys Môn yn ystod cystadleuaeth a gynhaliwyd gan gwmni Great British Energy (GBE-N).

Daw'r enw fuddugol o'r term hynfanol am dafodiaith yr ardal, Gwyndodeg.

Dewiswyd yr enillydd gan banel o bobl ifanc o'r ynys, dan gadeiryddiaeth AS Ynys Môn, Llinos Medi ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens.

Yn ôl GBE-N, mae'r enw "yn anrhydeddu hunaniaeth, gwytnwch, a chymeriad unigryw pobl yr ynys".

Dyweddod Jo Stevens: Heddiw rydym wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall, gyda phobl ifanc o Ynys Môn yn helpu i ddewis enw’r orsaf bŵer newydd. Ar ôl blynyddoedd o oedi gan lywodraethau blaenorol, rydym yn cyflawni ein haddewid gyda buddsoddiad o dros £2.5 biliwn i’r safle."

"Mae’n addas bod yr enw wedi’i ddewis gyda chymorth pobl ifanc o’r ynys. Bydd y buddion y mae hyn yn ei gynnig i Ynys Môn i’w deimlo am genedlaethau i ddod."

"Miloedd o swyddi newydd, economi hynod gadarn yng Ngogledd Cymru, a rôl allweddol yn nyfodol annibyniaeth ynni y DU. Dyna’r dyfodol mae pobl ifanc Ynys Môn, a ledled Cymru, yn ei haeddu."

Ychwanegodd Llinos Medi: "Rydw i’n ddiolchgar am yr holl enwau a gafodd eu cyflwyno, a’r esboniadau a ddaeth law yn llaw â nhw. Mae’r bobl ifanc a gymerodd ran ar y panel heddiw wedi gwneud yn arbennig o dda, ac wedi deall difrifoldeb ac arwyddocâd y dasg wrth law."

“Mae gennym ni enw ar gyfer y prosiect hwn sydd wirioneddol yn eiddo Ynys Môn.”

Bydd tri adweithydd niwclear bach wedi'u lleoli yng Ngwyndod, gan greu tua 3,000 o swyddi yn lleol a 5,000 o swyddi eraill mewn mannau eraill.

Mae GBE-N eisoes wedi llofnodi contractau gyda'r datblygwyr Rolls Royce SMR i gyflawni'r prosiect cyntaf o'i fath yn y DU, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd.

Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd cynllun Gwyndod yn cynhyrchu digon o drydan sefydlog a glân i bweru'r hyn sy'n cyfateb i tua thair miliwn o gartrefi am fwy na 60 mlynedd.

Dyweddod Simon Roddy, prif weithredwr GBE-N: “Dyma destun balchder i’r prosiect ac ar gyfer yr orsaf bŵer newydd yr ydym yn ei hadeiladu ar Ynys Môn."

"Mae dewis enw yn golygu llawer mwy na geiriau ar dudalen, mae’n ymwneud â hunaniaeth, uchelgais, a safle Wylfa ar yr ynys am y ganrif sydd i ddod. Rydw i’n hynod falch bod pobl ifanc Ynys Môn wedi chwarae rôl mor ganolog yn y penderfyniad hwn."

"Mae eu cyfraniad yn adlewyrchu yn union pam mae hyn mor bwysig: mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu cyfleoedd hirdymor, cefnogi swyddi medrus, a helpu i sicrhau ffynhonnell lân a dibynadwy o bŵer ar gyfer y dyfodol. Nhw fydd yn elwa o’r dyfodol y bydd hyn yn ei greu.”

Mae contractau gwerth bron i £900 miliwn wedi cael eu dyfarnu gan GBE-N gyda mwy na 70% yn mynd i gwmnïau o Brydain a biliynau o bunnoedd yn rhagor i'w caffael ar gyfer prosiect Gwyndod.

Ychwanegodd y Gweinidog Niwclear, yr Arglwydd Vallance: “Am dros 40 mlynedd, bu gweithwyr Wylfa yn rhan enfawr o bweru Prydain gydag ynni niwclear wedi’i gynhyrchu yng Ngogledd Cymru."

“Mae’n addas bod y gymuned sydd wrth wraidd oes euraidd niwclear Prydain yn gosod eu stamp eu hunain ar yr adweithyddion modiwlar bach a fydd yn cynhyrchu pŵer ar gyfer miliynau o gartrefi am ddegawdau.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'