Enwi dau bobl a fu farw mewn damwain awyren

Tuesday, 18 August 2026 15:35

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Richard Hoare)

Mae dau berson a fu farw mewn damwain awyren fach ger Trawsfynydd wedi cael eu henwi.

Bydd cwest yn agor i farwolaethau Sheetal Keton Swali (55) a Ketan Ashwinkumar Swali (59).

Daethpwyd o hyd i'r awyren mewn lleoliad aghysbell ger y pentref, yn dilyn chwiliadau awyr ac ar y ddaear prynhawn Gwener.

Cyhoeddwyd bod y ddau deithiwr wedi marw yn y fan a'r lle.

Derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru adroddiadau na wnaeth awyren ysgafn a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr gyrraedd Maes Awyr Caernarfon fel y disgwylid.

Mae tîm o'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn ymchwilio i'r ddamwain a bydd y cwest yn agor yn swyddfa'r crwner yng Nghaernarfon fore Mercher.

 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • End the day with Dai

    10:00pm - Midnight

    Two hours of relaxing sounds to round off the weekend

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'