Eryri: pryder cynyddol am gerddwr ar goll

Friday, 26 June 2026 15:22

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae pryder yn cynyddu am ddyn 74 oed sydd ar goll yn ardal Eryri.

Mae chwiliadau helaeth ar y gweill am Gregor, a welwyd yn parcio ei gar yn Hostel Mynydd Eryri ger Bethesda tua 10.15am fore Iau (25 Mehefin).

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, y gred yw ei fod wedi bwriadu mynd i heicio yn ardal Carnedd Y Filiast.

Mae Gregor wedi cael ei disgrifio fel 5 troedfedd a deg modfedd o daldra gyda gwallt byr cyrliog ac mae'n bosib ei fod yn gwisgo crys-T gwyrdd a throwsus brown pan ddiflannodd.

Dwyeddod llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae chwiliadau aml-asiantaeth yn parhau, ac rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd Gregor ddoe neu y bore yma i gysylltu â ni ar unwaith."

"Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un a oedd yn cerdded yn yr ardal, yn enwedig ar hyd Carnedd y Filiast, wirio unrhyw luniau a gymerwyd ganddynt rhag ofn y gallai Gregor fod yn y cefndir."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am leoliad posibl Gregor, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod O100150

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'