Gareth Evans-Jones yn ennill Medal Ryddiaith

Wednesday, 5 August 2026 17:37

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae Gareth Evans-Jones yw enillydd Medal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Garreg Las 2026.

Y llenor a'r bardd o Draeth Bychan, ger Marian-glas, sy'n ennill y wobr eleni mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn a ddenodd 28 o ymgeiswyr, yn ôl y beirniaid.

Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Mur | Muriau'.

Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgolion Llanbedrgoch a Goronwy Owen, Benllech, a'i addysg uwchradd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

Aeth wedyn i Brifysgol Bangor i astudio am raddau BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol, a doethuriaeth a gyhoeddwyd fel llyfr yn 2022 gan Wasg Prifysgol Cymru: 'Mae'r Beibl o'n tu': Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868). Cyhoeddir addasiad Saesneg o'r gyfrol yn y misoedd nesaf.

Bellach, mae'n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.

Mae'n parhau i lenydda, wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, Eira Llwyd ac Y Cylch, cyfrol o len micro a ffotograffau, Cylchu Cymru: Llun a Llen wrth Gerdded (a enillodd Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (a enillodd wobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg 2025).

Mae hefyd wedi golygu a chyd-olygu cyfrolau academaidd a chreadigol, gan gynnwys Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ ac Ar Amrantiad.

Enillodd Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021), gyda rhai o'r gweithiau iddo'u sgriptio gael eu cynhyrchu, gan gynnwys Adar Papur (cynhyrchiad digidol ar YouTube), Ynys Alys (Fran Wen), a Dilyn Sgwarnog (Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Ynys Mon eleni).

Mae hefyd yn barddoni a chafodd y fraint o lunio cerdd groeso Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026, a gynhaliwyd ym Mona.

Y beirniaid oedd Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price.

Wrth draddodi o'r llwyfan, dywedodd Meleri Wyn James: "Wrth i Angharad, Iwan a finnau dderbyn y gwahoddiad i feirniadu, dwi ddim yn meddwl bod yr un ohonon ni wedi rhagweld faint o gynigion fyddai ger ein bron. Yn wir, eleni, fe ddaeth nifer iach iawn o geisiadau – 28 i gyd."

"Roedd y tri ohonon ni'n gofyn yr un cwestiwn. Sgwn i, ydy hwn yn record ar gyfer y gystadleuaeth hon?"

"Yn sicr, ro'n ni fel beirniaid yn teimlo ei fod yn fater o falchder. Ac ar ôl pori, darllen ac ystyried dros nifer o fisoedd, ro'n ni'n gytun – os yw cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith Eisteddfod y Garreg Las yn arwydd, yna mae dyfodol rhyddiaith Gymraeg, yn ddisglair iawn."

"Maen nhw i gyd yn haeddu clod ac mae nifer fawr yn haeddu cael eu cyhoeddi. Ymhlith y rheini mae gwaith Alba, Jo Bach, Morlo, Panad, Siriol ac Y Mynyddwr, ac mae potensial i gryn nifer o gyfrolau eraill weld golau dydd, o addasu a golygu rhywfaint arnyn nhw."

"Ar ôl cryn drafod, fe benderfynon ni bod pedwar yn haeddu cyrraedd y dosbarth cyntaf. Y rheini, yn nhrefn yr wyddor, yw Cadno, Isha, O Bach a Pibydd. Roedd hi'n anrhydedd didoli gweithiau o safon mor uchel, roedd hefyd yn her."

"Ro'n ni'n tri yn gytûn y bydden ni wedi bod yn hapus iawn i wobrwyo pob un o'r awduron yn y dosbarth cyntaf, yn ogystal â sawl un arall, petai'n dod i hynny."

"Llongyfarchiadau twymgalon i'r pedwar awdur: mae'n gysur i ni fel beirniaid, y gallwn edrych ymlaen yn awchus at weld gwaith pob un yn cael ei gyhoeddi, i bawb allu rhyfeddu at eich dawn."

"Pedair cyfrol ddisglair a phob un mor wahanol...Ond un fedal sydd... beth i'w wneud felly? Do, fe fuon ni'n darllen ac yn ailddarllen, yn ystyried, yn trafod yn frwd, ac yn trafod eto wrth geisio dod i benderfyniad."

"Am ei chynfas eang, ei chwareustra, a'i dyfeisgarwch, mae Medal Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn mynd i Isha. Llongyfarchiadau gwresog iawn iddyn nhw."

Cyflwynwyd y Fedal gan Hazel, Geralyn, ac Eirlys Non er cof am eu rhieni, Gwynfi a Megan Williams, Blaenmorw, Capel Newydd i ddiolch am fagwraeth hyfryd a'u trwytho yn y "pethe", a'r wobr ariannol o £750, gan John a Bethan Cwmbetws.

Cefnogwyd y seremoni a'r gystadleuaeth gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Bydd y gyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.

Bydd y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod i gyd yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth yn dilyn Seremoni'r Cadeirio brynhawn Gwener.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'