Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i ganabis gael ei ddarganfod ym Mhlas Glynllifon ger Llandwrog.
Bu chwiliad o'r plasty o'r 19eg ganrif ym mis Ebrill o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, gyda chordon yn ei le.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd dyn 70 oed ei arestio ar amheuaeth o ganiatáu'r defnydd o eiddo ar gyfer cyflenwi canabis. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ers hynny.
Mae dyn 38 oed hefyd wedi ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi canabis, ac mae wedi ei ryddhau tra fod ymchwiliadau yn parhau.
Mae Plas Glynllifon wedi bod ar werth ers 2024, dim ond dwy flynedd ar ôl i'r safle gael ei brynu gan dyn busnes o Fanceinion.
Aeth yr adeilad i ddwylo derbynwyr yn 2020, yn dilyn cwymp cynlluniau i agor gwesty.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr