Grantiau ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol

Tuesday, 12 May 2026 13:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae grwpiau cymunedol a gwirfoddol yng Ngwynedd yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid erbyn y dyddiad cau.

Gall grwpiau trydydd sector lleol wneud cais am grantiau drwy bedwar cynllun gwahanol, er mwyn cefnogi prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd trigolion lleol a'u cymunedau.

Cronfa Cefnogi Cymunedau
Eleni, mae dros £200,000 o gyllid ar gael i gymunedau sydd eisiau cymryd rhan fwy rhagweithiol wrth gyflawni nodau yn eu hardaloedd lleol. Mae’r gronfa yn cynnig grantiau cyfalaf hyd at £20,000 neu grantiau refeniw hyd at £10,000.

Cronfa’r Degwm
Mae’r gronfa yn cynnig grantiau hyd at £5,000 i elusennau cofrestredig yn unig. Mae canran o’r gronfa hefyd yn cael ei ddosbarthu i eisteddfodau lleol yng Ngwynedd, sef swm o £300 yr un.

Cronfa Cymorth Argyfwng Bwyd (ariannwyd drwy gyllid Llywodraeth Cymru)
Nod y gronfa yw cefnogi cynlluniau bwyd a bwydo, i gefnogi'r nifer gynyddol o bobl sy’n wynebu tlodi bwyd. Mae’r gronfa yn cynnig grantiau cyfalaf hyd at £5,000 a/neu grantiau refeniw hyd at £4,000.

Cronfa Croeso Cynnes (ariannwyd drwy gyllid Llywodraeth Cymru)
Mae’r gronfa yn cynnig grantiau hyd at £2,000 i gefnogi lleoliadau pwysig ledled Gwynedd sy’n darparu gofod croesawgar, diogel a chynnes sydd yn agored ac yn gynhwysol i bawb.

Dyweddod y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet Cyngor Gwynedd dros y gymuned: "Mae grantiau Cist Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n arwain at gryfhau cymunedau ledled y sir. Dyma gyfle i’n trigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau eu hunain."

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mai.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am gyllid, ewch i wefan Cyngor Gwynedd neu cysylltwch â swyddogion Cist Gwynedd ar 01286 679 870 neu CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'