Gwahardd pêl-droediwr am ymosodiad

Tuesday, 9 June 2026 19:01

By Ystafell Newyddion MônFM

CPD Porthmadog FC

Mae dyn o Landdona wedi cael ei wahardd rhag chwarae pêl-droed am bum mlynedd am ymosod ar wrthwynebydd.

Plediodd Thomas Taylor yn euog i achosi niwed corfforol gwirioneddol i Danny Brookwell tra roedd yn chwarae i Fae Trearddur yn ystod gêm Gynghrair Ardal ym Mhorthmadog ym mis Ionawr.

Ym mis Mai, fe gafodd ddedfryd o garchar a gorchmynnwyd iddo dalu £439 mewn iawndal a chostau.

Cafodd Taylor hefyd ei ryddhau gan CPD Bae Trearddur ar ôl y digwyddiad a chafodd ei wahardd o bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed gan CBDC am gyfnod amhenodol.

Mae panel disgyblu yng nghorff llywodraethu pêl-droed Cymru wedi penderfynu bod cyhuddiad o ymddygiad treisgar yn erbyn y cyn-amddiffynwr wedi'i brofi.

Dwyeddod llefarydd ar ran CBDC: "O ganlyniad, mae Thomas Taylor yn destun gwaharddiad o bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed heb unrhyw adolygiad i'w ystyried o dan gyfnod o bum mlynedd. Mae'r cyfnod o 5 mlynedd yn dechrau ar 22 Ionawr 2026."

Rhaid i Taylor hefyd dalu dirwy a chostau, ond gall apelio yn erbyn y penderfyniad cyn 5pm brynhawn Gwener (12 Mehefin).

Yn Llys y Goron Caernarfon ar 12 Mai, cafodd Taylor ddedfryd o 24 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am flwyddyn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ian

    10:00am - Noon

    Dwy awr o gerddoriaeth gwych yng nghwmni Ian.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'