Mae dros 60 o fêls gwair wedi cael eu dwyn o fferm yn Llanddona.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn y lladrad, a ddigwyddodd rhwng dydd Gwener 17 a dydd Sul 26 Gorffennaf.
Yn ôl Tîm Troseddau Cefn Gwlad, cafodd y gwair ei ddwyn yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, pan oedd llawer o ffermwyr lleol i ffwrdd.
Dwyeddod SCCH Rhys Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am ble mae’r bêls yma, neu sy’n gwybod unrhyw beth a all ein helpu gyda'n hymchwiliad gysylltu â mi trwy ffonio 101, neu trwy'r wefan gan ddefnyddio'r ddolen isod, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 26000610070."


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr