Mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu cartref newydd ar gyfer Ysgol Bontnewydd.
Fis diwethaf, rhoddwyd caniatâd cynllunio gan gynghorwyr ar gyfer prosiect Campws Cymunedol Bontnewydd, a fydd yn costio £18.5 miliwn.
Bydd tua 210 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd yn symud i'r adeilad di-garbon, a fydd wedi'i gwblhau erbyn gwanwyn 2028.
Bydd y campws newydd hefyd yn cynnwys dosbarth meithrin ar gyfer 30 o blant, ynghyd â chylch meithrin pwrpasol, dosbarth addas ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac adnoddau modern a hyblyg ar gyfer defnydd y gymuned leol.
Dyweddod Owain Ellis, cadeirydd y llywodraethwyr: "Mae hwn yn gyfnod arbennig iawn i Ysgol Bontnewydd a’r gymuned gyfan."
"Mae gweld y gwaith yn dechrau ar y safle yn garreg filltir bwysig ar y daith gyffrous yma i gyflawni’r nod o adeiladu ysgol gynaliadwy ar gyfer dysgwyr Ysgol Bontnewydd am flynyddoedd i ddod."
"Rydym yn hynod falch fod y prosiect wedi cael ei ddewis fel un o ddim ond tair ysgol ledled Cymru i ennill yr Her Ysgolion Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru - cydnabyddiaeth o’r weledigaeth arloesol ac uchelgeisiol gan ddysgwyr Ysgol Bontnewydd a’r Tîm Prosiect sydd wrth wraidd y cynllun hwn."
"Bydd y campws newydd nid yn unig yn darparu cyfleusterau addysg o’r radd flaenaf i’n plant, ond hefyd yn creu canolbwynt cynaliadwy a modern i’r gymuned ehangach."
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf."
Yn 2023, sicrhawyd £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru (Llafur) gynt, a oedd wedi gwahodd ceisiadau ar gyfer ysgolion ecogyfeillgar newydd, a oedd wedi'u cynllunio gyda chymorth disgyblion.
Bontnewydd oedd yr unig ysgol yn y Gogledd i sicrhau cyllid drwy'r prosiect, gyda chyllid hefyd yn mynd i Ysgol Gynradd Rhosafan, ysgol gynradd Cymraeg ym Mhort Talbot, ac Ysgol Gynradd Glyn-coch, ysgol gynradd newydd ym Mhontypridd.
Dyweddod y Gweinidog Addysg, Anna Brychan: "Fel prosiect Her Ysgolion Cynaliadwy sy'n arloesi ac yn arwain y ffordd ym maes cynaliadwyedd, mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd â'n maniffesto a'n huchelgais 100 diwrnod cyntaf o ran codi safonau addysgol a manteisio ar gyfleoedd cynaliadwy drwy fentrau net zero carbon a'r economi gylchredol."
"Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth wrth i'r prosiect fynd i'r cam adeiladu ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn datblygu yn ased addysgol wir gynaliadwy sy'n gwasanaethu'r gymuned gyfan."

Bydd y cyfadeilad newydd, a adeiladwyd gan gwmni Read Construction, yn defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o ddau adeilad ar y safle sy’n mynd i gael eu dymchwel, a chael deunyddiau adeiladu o leoliadau sydd mor agos â phosibl at y safle, gan gynnwys pren a gwlân inswleiddio.
Bydd briciau, llechi a phren hefyd yn cael eu defnyddio o ysgol a ddymchwelwyd ym Mangor yn ddiweddar.
Dywedodd Alex Read, cyfarwyddwr Read Construction: "Mae prosiect Campws Cymunedol Bontnewydd yn cynrychioli cyfle pwysig i ddarparu ased cymunedol carbon isel o ansawdd uchel mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd."
"Mae Read Construction yn canolbwyntio ar gydweithio o’r cychwyn cyntaf gyda’r tîm dylunio, rhanddeiliaid lleol a’r gymuned ehangach i sicrhau bod y cynllun yn cyflawni ei amcanion cynaliadwyedd tra hefyd yn creu gwerth hirdymor ystyrlon trwy gyflogaeth leol, datblygu sgiliau ac ymgysylltu cymunedol."
Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn gwneud cyfraniad bychan tuag at gost y prosiect.
Dyweddod y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg: "Bydd yr ysgol newydd yn darparu amgylchedd dysgu modern, cynaliadwy ac ysbrydoledig i blant a’r gymuned am flynyddoedd i ddod."
"Mae cael sêl bendith y pwyllgor cynllunio yn garreg filltir arall o bwys, sy’n golygu gall y datblygwyr fwrw ymlaen i ddymchwel yr adeilad presennol dros wyliau’r haf cyn dechrau ar y gwaith adeiladu."
"Mae’r datblygiad yn dangos sut y gall adeiladu carbon isel ac egwyddorion yr economi gylchol gael eu rhoi ar waith mewn prosiectau cyhoeddus."
"Er enghraifft, bydd yr ysgol newydd yn ail-ddefnyddio brics, llechi a choed o ysgol arall ym Mangor a ddad-adeiladwyd yn ddiweddar. Wedi iddi agor, hon fydd un o’r ysgolion mwyaf uchelgeisiol o ran lleihau carbon yng Nghymru."
Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, sy'n cynrychioli ward Bontnewydd i Blaid Cymru: "Mae Ysgol Bontnewydd a’r ganolfan wedi bod wrth galon y gymuned ers cenedlaethau ac mae pawb yn y gymuned yn edrych ymlaen i weld y gwaith ar yr ysgol a’r adnoddau cymunedol newydd."
"Rydw i’n sylweddoli fod codi’r ysgol newydd ar yr un safle yn her a bod y plant a’u hathrawon eisoes wedi symud i ddosbarthiadau dros dro."
"Rwy’n falch fod pawb yn gallu tynnu i’r un cyfeiriad ac y bydd y cyfnod nesaf yn gyfle hefyd i’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau i ddysgu am bensaernïaeth a thechnoleg adeiladu."
“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld yr ysgol newydd yn agor ei drysau yng ngwanwyn 2028.”


Penmon: darganfod corff wrth chwilio am ddynes ar goll
Carcharu dyn o Abersoch am ddwyn o siopau
Parti traeth yn dod i Langefni
Pont Sanau newydd yn agor
Trydydd groesfan Menai: gweinidogion i ystyried opsiynau