Mae trefnwyr Gwyl y Felinheli yn addo gwedd newydd gyda digwyddiadau newydd ar gyfer 2026.
Bydd yr ŵyl eleni yn argoeli i fod yn wyth niwrnod bywiog, yn dechrau ddydd Gwener gyda noson bingo a disgo.
Mae digwyddiadau newydd yn cynnwys noson gowbois - "Felinhel-ye-ha!" - gyda band byw, dawnsio llinell a gwisg fansi.
Bydd yr ŵyl hefyd yn cyflwyno Bygi Heini am y tro cyntaf, sesiwn ffitrwydd ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n ymarfer gyda'u babis mewn bygis.
Bydd sesiwn stori a chân i fabanod a neiniau a theidiau am y tro cyntaf hefyd, a bydd y Ffair Cynnyrch Lleol yn dychwelyd am y tro cyntaf ers blynyddoedd - yn dathlu bwyd lleol, crefftau a mwy.
Dyweddod Osian Owen, aelod o bwyllgor yr ŵyl, fod y newidiadau'n adlewyrchu awydd yr ŵyl i gadw pethau'n ffres: "Mae Gŵyl y Felinheli wastad wedi symud efo’r oes."
"Bob blwyddyn rydan ni’n trio dod â syniadau newydd tra’n cadw’r ysbryd cymunedol sydd wrth galon yr ŵyl. Mae’r flwyddyn yma’n teimlo’n arbennig o gyffrous oherwydd ein bod wedi rhoi gwedd newydd i’n rhaglen, yn ogsytal â brand yr ŵyl ei hun."
Mae'r ŵyl wedi dod yn rhan annatod o fywyd yn Y Felinheli, ac mae logo newydd, rhan o frand adnewyddu, wedi tyfu’n naturiol dros y blynyddoedd diwethaf.
"Digwyddodd y logo newydd ar ddamwain," meddai Osian.
"Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethon ni greu llythrennau mawr, lliwgar, yn debyg i arwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, y math o beth sydd wedi dod yn boblogaidd mewn gwyliau yn ddiweddar."
"Heb fwriadu, fe ddatblygodd y llythrennau i fod yn logo answyddogol sy’n dal ysbryd Gŵyl y Felinheli yn berffaith — lliwgar ac ifanc!"
Bydd uchafbwyntiau eraill yn ystod yr ŵyl yn cynnwys y ras 10 cilomedr blynyddol, cerddoriaeth byw, noson o adloniant gyda Sara Owen, Genod y Finheli a Mônswn, ac yn olaf, diwrnod y carnifal ar ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf.
Dwyeddod llefaydd ar ran trefnwyr: “Mae’r gefnogaeth gan y pentref yn golygu popeth i ni. Mae Gŵyl y Felinheli wedi bod yn ŵyl gymunedol erioed, ac fedrwn ni ddim aros i groesawu pawb yn ôl eto’r haf yma.”


Eryri: pryder cynyddol am gerddwr ar goll
Enw 'Gwyndod' ar gyfer orsaf newydd Wylfa
Prosiect Morlais yn cwblhau gwaith ymchwil
Mwy o gadeiriau olwyn ar draethau Môn
'Neges mewn Potel' ar gael yng Ngwynedd