Mae'r Gweinidog Addysg wedi agor estyniad newydd mewn ysgol gynradd yn Llangefni.
Mae Uned Graig Fach, yr uned blynyddoedd cynnar yn Ysgol y Graig, wedi'i chynllunio i gyrraedd safonau carbon sero net wrth ehangu capasiti'r ysgol i 480 o ddisgyblion.
Mae tua £7 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar y cyfleuster newydd, sydd hefyd wedi ennill gwobr genedlaethol.
Dywedodd y pennaeth, Meinir Roberts: "Rydym wrth ein bodd yn agor Uned Graig Fach yn swyddogol a chroesawu ein disgyblion i'r amgylchedd newydd eithriadol hwn."
"Mae'r adeilad yn cynnig gofodau disglair, hyblyg ac ysgogol a fydd yn gwella addysgu a dysgu bob dydd. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau ein disgyblion ac yn eu cefnogi i gyflawni eu gorau."
Mae'r adeilad wedi'i ddatblygu i sicrhau nad yw'n defnyddio mwy o ynni nag y mae'n ei gynhyrchu.

Ymhlith y nodweddion allweddol, mae inswleiddio gwell a lefel isel o athreiddedd aer, dros 800m² o baneli ffotofoltäig sy'n cynhyrchu trydan adnewyddadwy ac goleuadau ynni isel 100% gyda rheolaethau deallus.
Agorwyd yr adeliad newydd gan Weindiog Addysg, Anna Brychan, sydd hefyd yn goruchwylio'r Gymraeg
Dwyeddod: "Mae'r uned blynyddoedd cynnar newydd yn dangos ein hymrwymiad i ehangu a chryfhau addysg cyfrwng Cymraeg wrth sicrhau digon o lefydd ysgol a gofal plant i deuluoedd lleol."
"Mae dros £7m wedi'i fuddsoddi o arian Llywodraeth Cymru, drwy ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, i helpu i ariannu'r adeilad newydd gwych yma a fydd yn cefnogi profiadau gwell i ddysgwyr a'n huchelgeisiau ehangach o ran cynaliadwyedd."

Yn 2025, cafodd y prosiect gydnabyddiaeth genedlaethol drwy ennill gwobr "Prosiect y Flwyddyn" gan CLAW (Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru).
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, mae'r uned newydd yn galluogi Ysgol y Graig i ymateb i'r galw cynyddol am addysg gynradd yn yr ardal Llangefni, wrth ddarparu cyfleusterau rhagorol i ddisgyblion, staff a'r gymuned ysgol ehangach.
Dyweddod y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n dal y portffolio addysg: "Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein huchelgais i greu'r amgylcheddau addysgol gorau posibl lle gall ein plant, athrawon a phenaethiaid ffynnu, codi safonau a chyrraedd eu llawn botensial."
"Mae Graig Fach yn darparu cyfleusterau modern, ysbrydoledig a fydd yn cefnogi dysgu ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Ychwanegodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sy'n dal y portffolio newid hinsawdd: "Mae Graig Fach yn dangos sut y gallwn ddarparu adeiladau cyhoeddus o ansawdd uchel wrth ymateb yn uniongyrchol i'r argyfwng hinsawdd."
"Mae'r dyluniad Carbon Sero Net yn dangos ein hymrwymiad i leihau allyriadau a chreu cymunedau cynaliadwy. Nid buddsoddiad mewn addysg yn unig yw'r adeilad hwn, ond hefyd yn nyfodol ein hamgylchedd."


A470: beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad
Cyhuddo tri dyn o gyflenwi cetamin
Mona yn paratoi ar gyfer Sioe Môn
Artist o Fôn yn ennill gwobr Josef Herman
Llwybr teithio llesol Cob wedi'i gwblhau