Mae cynllun tai solar a redir gan Cyngor Ynys Môn wedi cael ei anrhydeddu â gwobr genedlaethol fawreddog.
Mae systemau ffotofoltäig solar a thechnoleg storio batri wedi'u dylunio a'u gosod yn stoc tai'r awdurdod lleol fel rhan o ymdrechion i wella effeithlonrwydd ynni, torri allyriadau carbon a costau ynni trigolion.
Mae'r fenter, a gyflwynir gan y contractwyr lleol Anglesey Solar & Electrical Ltd, wedi sicrhau gwobr Cyngor Rhanbarthol neu Gorff Awdurdod Lleol y Flwyddyn yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cymru.
Dywedodd Ned Michael, pennaeth tai y cyngor: "Rydym yn hynod o falch ein bod wedi derbyn y wobr hon. Mae'n cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ein staff a phartneriaid er mwyn gwireddu gwelliannau ystyrlon ar gyfer ein preswylwyr a'n cymunedau."
"Mae'r prosiect yma yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai, lleihau allyriadau carbon a chefnogi tenantiaid trwy leihau'r defnydd o ynni a chostau."
"Mae'n dangos hefyd sut y gall partneriaethau lleol lwyddo i wireddu atebion arloesol a chynaliadwy ar gyfer Ynys Môn."

Yn ôl y cyngor sir, mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn amcan allweddol yn ei gynllun ac mae'r wobr yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i ymateb i'r argyfwng hinsawdd wrth weithio tuag at fod yn sefydliad sero net erbyn 2030..
Dwyeddod y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n dal y portffolio tai: "Mae darparu cartrefi o safon uchel, fforddiadwy a hygyrch yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor, ac mae gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai yn rhan bwysig o gyflawni'r nod honno."
"Mae'r wobr hon yn cydnabod ymrwymiad y cyngor i fuddsoddi mewn cartrefi sy'n addas ar gyfer y dyfodol – cartrefi sy'n gyfforddus, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy fforddiadwy i'n preswylwyr eu cynnal."
"Mae'r gwaith yn cefnogi'r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun y Cyngor ac mae'n dangos yr effaith gadarnhaol y gall buddsoddi mewn tai ei gael ar gymunedau ledled Ynys Môn."
Esboniodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sy'n dal y portffolio newid hinsawdd: "Mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn parhau i fod yn un o amcanion strategol allweddol y cyngor ac mae'r wobr hon yn dangos pa mor bwysig yw camau ymarferol er mwyn ein helpu i gyrraedd ein huchelgais i fod yn sefydliad sero net erbyn 2030."
"Mae prosiectau fel yr un yma'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy leihau allyriadau carbon o gartrefi ac adeiladau, yn ogystal â hyrwyddo ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd ledled yr ynys."
"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu penderfyniad y Cyngor i ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng hinsawdd a chreu buddion amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae'r Cyngor Môn yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau a chynlluniau sy'n cefnogi gweithredu ar yr hinsawdd, gwella ansawdd tai a helpu i greu cymunedau cynaliadwy ar yr ynys.
Ychwanegodd Anglesey Solar & Electrical Ltd: "Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i wasanaethu fel prif gontractwr PMC 483 ers iddo ddechrau ac rydym yn hynod falch bod ei lwyddiant wedi'i gydnabod yn genedlaethol."
"Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu gweledigaeth glir Cyngor Môn i fynd i'r afael â gofynion ynni'r dyfodol yn ystod cyfnod o ansefydlogrwydd ynni ynghyd â gwaith caled ac ymrwymiad pawb sydd wedi ymwneud â'r prosiect."
"Mae ein perthynas waith â Chyngor Sir Ynys Môn yn parhau i esblygu mewn modd gadarnhaol gyda buddion y prosiect a'r tenantiaid a gefnogir wrth wraidd hynny."
"Mae buddion PMC 483 eisoes yn cael profi gan denantiaid ac ni allem fod yn fwy balch o'r rhan yr ydym wedi'i chwarae yn ei lwyddiant."


Arestio tri mewn "diwrnod gweithredu cyffuriau"
Tân cerbyd ym Mynydd Mechell
Cadwraethwr paentiadau i draddodi darlith Syr Kyffin
Bangor: cyhuddo dyn o drais domestig
Caernarfon: apêl i adeiladu eisteddle Wyn Davies