Mae gwasanaeth ieuenctid Môn wedi cael ei anrhydeddu â gwobr genedlaethol am wneud defnydd arloesol o realiti rhithwir.
Mae gwasanaeth y Cyngor wedi bod yn defnyddio technoleg i helpu pobl i ddeall yn well effaith trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae mwy na 150 o bobl ifanc a thros 250 o weithwyr proffesiynol wedi cymryd rhan yn y fenter fel rhan o ymdrechion y cyngor i ennill cydnabyddiaeth i Ynys Môn fel "Ynys sy'n Ymwybodol o Drawma".
Roedd y gwasanaeth ieuenctid y cyngor sir yn fuddugol yn y categori Arloesi Digidol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2025.
Dywedodd Nia Williams, rheolwr y gwasanaeth ieuenctid: "Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bob aelod o staff yn y gwasanaeth ieuenctid am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u hymrwymiad parhaus. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ymdrechion y tîm cyfan."
Caiff ei ddefnyddio er mwyn cynnig profiadau trochi i archwilio pynciau gan gynnwys trawma, camfanteisio, troseddau cyllyll a diogelwch ar-lein.
Dywedodd un person ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen: "Roedd defnyddio’r pen VR yn ei gwneud hi’n llawer haws deall beth sy’n digwydd yn ymennydd pobl ifanc yn eu harddegau, a bod hi’n normal teimlo’n orlethu weithiau."
Mae’r dechnoleg hefyd wedi cael ei defnyddio i gryfhau gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol ar draws addysg, iechyd, yr heddlu a sefydliadau partner eraill, gan eu helpu i adnabod ac ymateb yn fwy effeithiol i ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrawma.
Canmolodd y beirniaid y prosiect fel enghraifft bwerus o arloesi digidol mewn gwaith ieuenctid, gan gydnabod ei effaith gadarnhaol ar bobl ifanc a’i gyfraniad at adeiladu cymunedau mwy gwybodus a gwydn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, sy'n dal portffolio plant a phobl ifanc: "Mae hwn yn gyflawniad gwych i’n gwasanaeth ieuenctid, ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol dros ben i brosiect arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc ar draws Ynys Môn."
"Mae ymrwymiad y tîm i gefnogi pobl ifanc, i ddefnyddio technoleg newydd ac i weithio mewn partneriaeth yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae gwaith ieuenctid yn parhau i’w chael yn ein cymunedau. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o ennill y wobr genedlaethol haeddiannol hon."


Gostyngiad mawr mewn pobl ifanc 'Neet'
Burwen: cwest yn agor wedi gwrthdrawiad
Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig