Cafodd gwyliwr ei daro gan fan yn ystod ras marathon SheUltra ym Mhenllŷn yr penwythnos diwethaf.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn gwrthdrawiad ar y B4413 ym Mynytho ddydd Sadwrn diwethaf (11 Ebrill) rhwng fan gwyn a cherddwr benywaidd oedd yn gwylio’r ras.
Mi stopiodd y gyrrwr i gychwyn, ond yna gadawodd y lleoliad.
Cymerodd dros 2,500 o fenywod ran yn y ras ultra-farathon 50 cilomedr - y digwyddiad mwyaf o'i fath yn y byd.
Dywedodd Cwnstabl Kelly Mitchell o Heddlu Gogledd Cymru: "’Da ni’n apelio ar y gyrrwr i gysylltu efo ni, yn ogystal ag unrhyw un oedd yn dyst i’r digwyddiad."
"Ar ben hyn, ‘da ni’n apelio ar unrhyw un sydd efo fideo o’r digwyddiad neu’r cerbyd i gysylltu efo ni."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod 26000288384.


Bangor: cyhuddo dyn o droseddau trais domestig
Cyfres o fyrgleriaethau ym Môn
Chwilio am wirfoddolwyr Eisteddfod yr Urdd
Senedd 2026: annog pleidleiswyr i gofrestru
Cymeradwyo Ysgol Uwchradd Caergybi newydd