Bydd Gŵyl Arall 2026 yng Nghaernarfon yn un o'r rhai mwyaf uchelgeisiol yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl y trefnwyr.
Mae'r ŵyl gelfyddydau a diwylliant boblogaidd yn dechrau nos Fercher gyda sesiwn farddoniaeth cyn i'r sylw droi at seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn Galeri nos Iau.
Bydd yr ŵyl unwaith eto'n trawsnewid strydoedd, lleoliadau a mannau cyhoeddus hanesyddol Caernarfon yn fwrlwm o gerddoriaeth, celf, llenyddiaeth a pherfformiadau o bob math.
Mae uchafbwyntiau Gŵyl Arall eleni yn cynnwys:
- Cerddoriaeth fyw gan Cowbois Rhos Botwnnog, Hyll, Alffa, Ffenest, Achlysurol a mwy
- Sgyrsiau a darlithoedd gyda'r newyddiadurwr Will Hayward, yr hanesydd Elin Tomos a'r darlithydd gwyddorau biofeddygol Dr Dylan Wyn Jones
- Arddangosfa gelf yng Nghastell Caernarfon yn cynnwys 20 o artistiaid a pherfformiadau gan Hedydd Ioan, Esyllt Angharad Lewis, Cerys Hafana, Amy Huckstep a Crawia.
- Digwyddiadau llenyddol yng nghwmni llenorion blaenllaw Cymru gan gynnwys Iola Ynyr, Geraint Iwan, Tudur Owen, Mikey Bell, Non Prys Ifans, Rhian Cadwaladr a llawer mwy
- Sioeau comedi gyda Katie Gill, Carwyn Blaney, Caryl Burke a Steffan Evans
- Sesiynau stori ar gyfer plant bach a mawr gyda Catrin Angharad Jones a Casia Wiliam
- Teithiau cerdded lleol yng nghwmni Rhys Mwyn a Siân Shakespear

Dywed y trefnwyr bod amserlen Gŵyl Arall eleni yn gyforiog, gan adlewyrchu enw da cynyddol yr ŵyl fel rhan allweddol o galendr diwylliannol Cymru.
Mae busnesau lleol, lleoliadau a gwirfoddolwyr yn parhau i chwarae rhan ganolog yn yr ŵyl, gan atgyfnerthu ymrwymiad Gŵyl Arall i weithredu cymunedol a thwf diwylliannol cynaliadwy.
“Mae Gŵyl Arall yn ddathliad o bwy ydan ni - ein hiaith, ein straeon, a'n dychymyg fel Cymry,” meddai tîm yr ŵyl. “Rydym yn falch o ddod ag artistiaid, cynulleidfaoedd, a'r gymuned at ei gilydd unwaith eto, gan ddod ac arlwy byw a modern i waliau hanesyddol Caernarfon.”


Interniaid newydd yn ymuno â phrosiect Morlais
Cyllid ar gyfer tri phrosiect arfordirol
A5: beiciwr wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Plant Môn yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr
Treth twristiaeth: ymgynghoriad yn parhau