Bydd Cyngor Gwynedd yn holi barn pobl leol ar gyflwyno 'treth twristiaeth'.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau yr wythnos nesaf a disgwylir penderfyniad terfynol ym mis Medi.
Bydd Cyngor Sir Conwy hefyd yn cynnal ymarfer ymgynghori, yn dilyn cyfarfod ddydd Iau.
O'r flwyddyn nesaf, bydd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn caniatáu i gynghorau godi £1.30 y pen y noson am aros mewn llety ymwelwyr, gan gynnwys gwestai, a 75c mewn meysydd gwersylla a hosteli.
Hyd yn hyn, mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno'r ardoll ymwelwyr o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, byddai cyflwyno ardoll ymwelwyr "yn cefnogi economi ymweld mwy cynaliadwy i'r sir".
Dyweddod y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi: "Mae'r sector dwristiaeth yn rhan bwysig o economi Gwynedd."
"Mae nifer fawr o bobl yn dibynnu arno ar gyfer eu bywoliaeth a llawer o fusnesau wedi buddsoddi'n drwm yn y maes. Ond rydym yn gwybod hefyd bod heriau yn bodoli yn sgil twristiaeth yma."
"Mae Deddf Llety Ymwelwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr ar draws Cymru i gofrestru fel rhan o drefn genedlaethol. Mae'r ddeddf yma hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol – fel Cyngor Gwynedd – i godi ardoll ymwelwyr ar bobl sy'n dod yma i aros."
"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r sector a gyda'n partneriaid megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdod Cyllid Cymru a chynghorau cyfagos wrth i ni baratoi i gyflwyno'r adroddiad hwn i'r cyngor."
"Mae gan yr ardoll y potensial i gynhyrchu incwm sylweddol fydd yn cael ei ail-fuddsoddi yn y diwydiant ac yn y cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan ymwelwyr."
Mae adroddiad gan Cyngor Gwynedd yn amlygu nifer o feysydd posibl lle gellid buddsoddi'r ardoll yn y dyfodol, yn cynnwys:
- cefnogaeth i fusnesau, digwyddiadau a chymunedau,
- gwella ac ymestyn oriau agor toiledau,
- prosiectau i gefnogi treftadaeth ddiwylliannol a'r Gymraeg
- gwella trafnidiaeth cyhoeddus a llwybrau cyhoeddus
- ymateb i bwysau ymwelwyr ar yr amgylchedd a byd natur
Ond mae gwrthwynebwyr, gan gynnwys y Trethdalwyr Gynghrair, yn dadlau bod y dreth mewn perygl o ddod yn "dreth arall sy'n niweidio twf economaidd" ac yn rhoi "pwysau pellach ar fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd".
Mae astudiaeth gan y grŵp lobïo yn awgrymu y byddai twristiaeth yng Nghymru mewn perygl o golli tua £359 miliwn pe bai'r ardoll yn cael ei gweithredu.
Mae adroddiad gan Gyngor Ynys Môn wedi codi pryderon ynghylch sut y byddai ymwelwyr yn ymateb i'r ardoll, ynghyd â'r effaith ar fusnesau twristiaeth, yn enwedig darparwyr llety llai.
Dwyeddod llefarydd ar ran Cyngor Mon: "Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch a fydd ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno. Byddai unrhyw benderfyniad yn digwyddiad ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad a'r dystiolaeth ategol yn ofalus."
Yng Ngwynedd, bydd y broses ymgynghori yn cynnwys cyfle i lenwi holiadur, mynychu sesiynau galw heibio a digwyddiadau arbennig.
Os bydd y cyngor yn penderfynu mabwysiadu'r ardoll, y cynharaf y gall fod yn weithredol ydi 1 Hydref 2027.
Ychwanegodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes: "Bydd yr holl ymatebion yn cael eu pwyso a'u mesur fel un ystyriaeth o'r broses cyn i'r mater ddod yn ôl yma i'r cyngor llawn i holl aelodau etholedig Cyngor Gwynedd wneud penderfyniad ar fabwysiadu'r ardoll a'i peidio ar 24 Medi 2026."
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mercher nesaf (20 Mai) ac yn parhau am wyth wythnos tan ddydd Mercher 15 Gorffennaf.


Newidiadau mawr i amserlenni trên
Talwrn: benthyciad ar gyfer prosiect tai
Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Pont y Borth ar gau eto
Cyngor Gwynedd yn ethol cadeirydd newydd