Mae datblygwyr wedi sicrhau benthyciad o £1.25 miliwn i adeiladu chwe chartref newydd yn Nhalwrn, ger Llangefni.
Nod prosiect Bryn Brochon yw helpu i ddiwallu'r galw parhaus am gartrefi modern ac ynni effeithlon.
Cafodd y safle ei gaffael ym mis Medi 2022 gan cwmni RJD fel ei ddatblygiad cyntaf, a ffufiwydd yn 2020 fel menter ar y cyd rhwng Dylan Southern a Robert John Williams.
Mae'n un o nifer o fusnesau lleol sydd wedi sicrhau cefnogaeth Banc Datblygu Cymru.
Dyweddod Robert John Wiliams: "Rydym yn falch iawn o fod yn bwrw ymlaen â’n datblygiad cyntaf fel RJD. Mae Talwrn yn gymuned wych, a bydd Bryn Brochon yn cynnig cymysgedd o gartrefi o ansawdd uchel sy’n addas i anghenion lleol."
"Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu yn rhoi hyder i ni wrth i ni symud ymlaen â’r prosiect cyntaf hwn, ac rydym yn ddiolchgar am y ffordd adeiladol y maent wedi ein helpu i symud o drafodaethau cynnar i gyflawni."
Mae'r prosiect Bryn Brochon yn cynnwys dau fyngalo ar wahân tair ystafell wely, un pâr o gartrefi pâr (rhan-gysylltiedig) tair ystafell wely ac un pâr o gartrefi pâr (rhan-gysylltiedig) dwy ystafell wely, gan gynnwys uned ddwy ystafell wely fforddiadwy.
Roedd y prosiect hefyd yn gymwys ar gyfer y Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd, gyda phympiau gwres ffynhonnell aer wedi'u gosod yn yr eiddo newydd ar y safle.
Ychwanegodd Keith Clements, swyddog gweithredol datblygu eiddo Banc Datblygu Cymru: "Mae RJD Developments yn cyfuno gwybodaeth ymarferol am adeiladu ag arweinyddiaeth gref am brosiectau, ac mae Bryn Brochon yn enghraifft wych o’r math o gynllun tai dan arweiniad Cymru yr ydym am ei gefnogi."
"Bydd y datblygiad yn dod â ‑chartrefi sydd wedi’u cynllunio’n dda i Talwrn, gan gynnwys eiddo fforddiadwy i bobl leol. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Dylan a Robert wrth iddynt gyflawni eu prosiect cyntaf gyda’i gilydd o dan faner RJD."
Mae prosiectau eraill a gefnogir gan Fanc Datblygu Cymru yn cynnwys gwaith adnewyddu ar ddau dŷ gwyliau yn Rhosneigr a Porth Llechog. ar gost o £1.25 miliwn.
Mae cwmni Rib Ride Adventure Boat Tours wedi sicrhau £150,000 gan Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru i ehangu'r cynnig twristiaeth forol drwy gydol y flwyddyn ar Afon Menai, tra bod Ecodetect wedi derbyn £490,000 i gynyddu graddfa technoleg dan arweiniad DA ar gyfer ynni adnewyddadwy alltraeth.


Newidiadau mawr i amserlenni trên
Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Pont y Borth ar gau eto
Cyngor Gwynedd yn ethol cadeirydd newydd
Gwynedd i ymgynghori ar 'dreth twristiaeth'