Bydd newidiadau mawr i'r amserlen yn trawsnewid teithiau trên yng Ngogledd Cymru, yn ôl penaethiaid y rheilffyrdd.
O ddydd Sul, bydd trenau o Faes Awyr Manceinion yn gwasanaethu Caergybi fel rhan o un o’r newidiadau mwyaf i wasanaethau rheilffordd yn y rhanbarth.
Bydd patrwm gwasanaeth newydd gyda'r nod o wella opsiynau cymudo i Gaergybi a Bangor, tra bydd gorsaf y Fali yn dod yn arhosfan orfodol ar bob trên.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, bydd gwasanaethau ar linell Arfordir Gogledd Cymru yn cynyddu tua 50%, gan gefnogi'r galw cynyddol am deithio cynaliadwy a chryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau.
Dwyeddod Colin Lea, cyfarwyddwr cynllunio a pherfformiad TrC: "Dim ond ychydig ddyddiau sydd cyn cyflawni gwelliant mawr i wasanaethau rheilffordd fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru."
"Bydd yr amserlen newydd yn dod â threnau amlach a chysylltiadau gwell i’n cwsmeriaid yng ngogledd a gorllewin Cymru."
"Mae’r newidiadau hyn yn gam sylweddol ymlaen, gydag amserlen symlach a mwy cyson yn ogystal â mwy o gapasiti ar draws rhai o’n llwybrau prysuraf. Ochr yn ochr â chyflwyno talu wrth fynd, rydym yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddewis y rheilffordd a theithio’n gynaliadwy."

Bydd patrwm safonol bob awr a gyflwynir ar lwybrau allweddol i'r gogledd a'r gorllewin o Amwythig, ac eithrio Wrecsam a Bidston).
Mae'r cysylltiadau uniongyrchol rhwng Caergybi a Maes Awyr Manceinion wedi'u cynllunio i wella cysylltiadau trafnidiaeth ehangach â Gogledd-orllewin Lloegr, gan gynnwys cysylltiadau fferi i Iwerddon.
Bydd y newidiadau’n arwain at gynnydd sylweddol yn amlder a chapasiti trenau rhwng Caer a Chyffordd Llandudno, un o rannau prysuraf rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.
Hefyd, bydd y gwasanaeth rhwng Birmingham a gogledd Cymru (gan gynnwys o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham) - bob dwy awr ar hyn o bryd - yn rhedeg i Gyffordd Llandudno ac oddi yno, nid Caergybi.
Mae'r gwasanaethau ar wahân, bob awr, rhwng Wrecsam a Chaer a rhwng Caer a Crewe yn cael eu cyfuno'n un gwasanaeth drwodd.
O ddydd Llun, bydd y dull talu digyswllt tapio i mewn a thapio allan yn cwmpasu 15 gorsaf rhwng Wrecsam Cyffredinol a Bidston, gan gynnig ffordd fwy hyblyg a chyfleus o deithio.
Mae TrC yn annog teithwyr i wirio cyn teithio, gan y bydd rhai patrymau galw yn newid ac efallai y bydd trenau'n stopio mewn gorsafoedd gwahanol i'r rhai o'r blaen.
Mae Network Rail hefyd yn atgoffa'r cyhoedd a theithwyr i gymryd gofal ychwanegol mewn croesfannau lefel gyda gwasanaethau amlach yn rhedeg ar draws y rhwydwaith.
Ychwanegodd Nick Millington, cyarwyddwr llwybrau Network Rail: "Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ers 18 mis i baratoi'r rheilffordd i ddarparu'r gwasanaethau ychwanegol hyn, sy'n cefnogi mwy o deithiau carbon isel, cysylltedd gwell ar gyfer cyflogaeth a thwristiaeth, sy’n helpu economïau lleol i dyfu.
“Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth o hyd wrth i ni gefnogi’r newidiadau hyn a groesewir ar draws gogledd a gorllewin Cymru."
"Gyda mwy o drenau’n rhedeg, rydym yn gofyn i bawb aros yn wyliadwrus, yn enwedig wrth groesfannau rheilffordd ac i gymryd gofal ychwanegol ger y rheilffordd."
"Drwy gydweithio â Trafnidiaeth Cymru a'n teithwyr, gallwn sicrhau bod y rhwydwaith yn parhau i fod yn ddiogel ac yn ddibynadwy i bawb".


Talwrn: benthyciad ar gyfer prosiect tai
Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Pont y Borth ar gau eto
Cyngor Gwynedd yn ethol cadeirydd newydd
Gwynedd i ymgynghori ar 'dreth twristiaeth'