Mae ymgeisydd annibynnol wedi ei ail-ethol i Gyngor Môn mewn isetholiad.
Cafodd Kenneth Hughes ei ethol i'r sedd wag yn ward Talybolion gyda 678 o bleidleisiau - mwyafrif o 160 dros ymgeisydd Plaid Cymru Dafydd Williams.
Cafodd y sedd ei gwagio gan gyn-arweinydd y cyngor Llinos Medi yn dilyn ei hethol yn AS Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Mae Mr Hughes yn dychwelyd i'r cyngor am y tro cyntaf ers 2022, pan gollodd ei sedd yn yr etholiadau lleol.
Dyma'r canlyniad llawn:
- Kenneth Hughes (Annibynnol): 678
- Dafydd Williams (Plaid Cymru): 518
- David Evans (Ceidwadwyr Cymreig): 72
- Tomos Barlow (Plaid Werdd Cymru): 46
Canran a bleidleisiodd 31.9%.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr