Mae dau raddedig wedi sicrhau interniaethau gyda chynllun ynni llanw Morlais yng Nghaergybi.
Nod rhaglen interniaid Dyfodol Morol yw rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol uchelgeisiol ennill profiad ymarferol a datblygu eu sgiliau yn y sector.
Dywed Menter Môn fod prosiect Morlais yn anelu at greu swyddi o safon yn y diwydiant ynni adnewyddadwy a sicrhau bod cyfleoedd o'r fath ar gael trwy'r gyfrwng y Gymraeg.
Un o'r interniaid newydd yw Amy Quaeck Evans o Borthmadog, a raddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn bioleg forol ac eigioneg.
"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu sgiliau ymarferol ac ehangu fy ngwybodaeth am faterion morol yng ngogledd Cymru a Môr Iwerddon trwy'r interniaeth yma."
"Mae hwn yn gyfle gwych, ac rydw i'n siŵr y bydd yn rhoi'r hyder a'r profiad rydw i eu hangen ar gyfer gyrfa lle fedrai gyfrannu at reoli a diogelu ein hamgylchedd."
Y recriwt arall yw Sion D'Arcy o Fangor, a astudiodd y gwyddorau biolegol ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cyn dychwelyd i'w ddinas enedigol i gwblhau gradd meistr mewn cadwraeth a rheoli tir ym Mhrifysgol Bangor.
"Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn, a rydw i yn falch o gael y cyfle i gyfrannu at brosiectau ymchwil amgylcheddol sy'n gysylltiedig â Morlais."
"Fel siaradwr Cymraeg, mae'r cyfle i ddatblygu a defnyddio'r iaith mewn awyrgylch broffesiynol a mor agos at adref yn golygu llawer i mi ac mae'n rhan werthfawr o'r interniaeth yma. Rydw i yn edrych ymlaen i ddechrau ar y gwaith."
Bydd y ddau yn rhannu eu hamser rhwng partneriaid y cynllun - gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, M-SParc a Chyfoeth Naturiol Cymru, a bydd y cyfnod yn cynnwys ymweliadau a chyflwyniadau yn swyddfeydd Ystâd y Goron yn Llundain a Chaerdydd.
Dyweddod Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn: "Mae Morlais wastad wedi bod ynglŷn â llawer iawn mwy na chynhyrchu trydan glân. Mae'n ymwneud â sicrhau bod manteision y cynllun yn cael effaith yma yng ngogledd Cymru – trwy swyddi, sgiliau a chyfleoedd hyfforddi."
"Rydym falch iawn o groesawu dau siaradwr Cymraeg talentog o'r ardal i'r tîm. Bydd y ddau yn cael profiad uniongyrchol o sector sy'n tyfu'n gyflym, wrth gymryd rhan mewn gwaith fydd yn cyfrannu at ddyfodol ynni llanw yng Nghymru."
"Mae ceisio cadw pobl ifanc yng ngogledd Cymru o fudd i bawb. Mae'n cryfhau ein heconomi, yn cefnogi ein cymunedau ac yn helpu i warchod a thyfu'r iaith Gymraeg. Mae creu cyfleoedd fel hyn yn rhan bwysig o'r hyn rydym yn ei wneud yn Menter Môn."
Mae gan y cynllun Morlais y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel. Gyda'r seilwaith ar y tir eisoes yn ei le mae disgwyl i'r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod yn y môr a dechrau cynhyrchu trydan o 2027.


Gŵyl Arall 2026 yn fwy 'uchelgeisiol'
Cyllid ar gyfer tri phrosiect arfordirol
A5: beiciwr wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Plant Môn yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr
Treth twristiaeth: ymgynghoriad yn parhau