Mae Helen Jenner wedi cael ei hethol yn arweinydd newydd Reform UK yng Nghymru.
Mae AS Bangor Conwy Môn yn olynu Dan Thomas, yn dilyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn gynharach yn y mis.
Cafodd ei hethol yn dilyn pleidlais gan grŵp y Senedd fore Llun, gan drechu ymgais gystadleuol gan ei chyd-aelod o'r blaid, Jason O'Connell.
Mae Jenner, a gafodd ei ethol i'r Senedd yn etholiadau mis Mai diwethaf, hefyd wedi gwasanaethu'n flaenorol fel gweinidog cysgodol dros addysg a'r Gymraeg.
Cafodd ei geni yng Nghastell-nedd a'i magu ym Modorgan; bu'n gweithio fel athrawes am bymtheg mlynedd, ac yn 2019, safodd fel ymgeisydd dros Reform – a oedd yn cael ei adnabod bryd hynny fel The Brexit Party – yn etholaeth Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd Jenner ei bod yn “llawn cyffro” o gael cefnogaeth ei chydweithwyr yn y Senedd, ac addawodd "barhau i herio’r sefydliad gwleidyddol yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Ym mis Mai, rhoddodd y pleidleiswyr fandad clir i ni i chwalu’r sefydliad ac i ddod â synnwyr cyffredin i Fae Caerdydd."
"Wythnos ar ôl wythnos, dyna’n union rydyn ni wedi’i wneud, ac ni fyddwn yn rhoi’r gorau iddi nes i ni sicrhau’r newid gwirioneddol y mae Cymru’n ei haeddu."
Cyhoeddwyd ethol Jenner yng Nghaerdydd gan Nigel Farage, a’i disgrifiodd fel "ymgyrchydd hir-sefydledig ac ymroddedig".
Dyweddod: "Rwyf wedi adnabod Helen ers blynyddoedd. Mae hi'n ymgyrchydd penderfynol, ac rwy'n credu y bydd hi'n gwneud gwaith da iawn."
Ymddiswyddodd Dan Thomas ddydd Mawrth diwethaf yn dilyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddygiad rheoli neu orfodi.
Mae AS Casnewydd Islwyn, a gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau, wedi dweud nad yw wedi gwneud dim o'i le.
Camodd Jenner i mewn i gymryd lle Thomas yn y sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog prynhawn Mawrth diwethaf.
Mae ei hethol yn arweinydd newydd grŵp Reform yn y Senedd yn golygu bod arweinwyr Llywodraeth Cymru – sef y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth – a'r wrthblaid ill dau yn dod o Ynys Môn.
Bydd olynydd Jenner fel dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru yn cael ei ddewis ddydd Mawrth.


Cyhuddo dau ddyn ar ôl cyrchoedd cyffuriau
Pwllheli: carcharu dyn am stelcian
Rhybudd i berchnogion cŵn ar ôl ymosodiadau ar ddefaid
Porthladd Rhydd: gwaith yn dechrau ar safle Peboc
Caergybi: carcharu dyn am ymddygiad rheolaethol