Rhybudd i berchnogion cŵn ar ôl ymosodiadau ar ddefaid

Monday, 21 September 2026 18:30

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae perchnogion cŵn yn cael eu hatgoffa o'u cyfrifoldebau cyfreithiol a riportio ymosodiadau ar ddefaid ar ôl i nifer o famogiaid gael eu lladd.

Mae nifer o'r digwyddiadau wedi digwydd ym mynyddoedd Eryri ac ar Ynys Môn dros y misoedd diwethaf.

Bu farw mamog groes Albanaidd yn dilyn ymosodiad ar dir Brithdir ger Llanberis ar ddydd Sadwrn 12 Medi.

Yn ôl y ffermwr, mai hwn oedd y trydydd ymosodiad o fewn tri mis, gan arwain at dair dafad yn cael eu lladd gan gŵn.

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i ymosodiadau diweddar yn ardaloedd Marian-glas, Dinas Dinlle a Bodorgan.

Dywedddod Heddlu Gogledd Cymru nad ydy llawer o ddigwyddiadau'n cael eu riportio i'r heddlu nac i ffermwyr, gan arwain at dda byw'n dioddef ac yn marw'n ddiangen. 

Dywedodd SCCH Rhys Evans o dîm troseddau gwledig yr heddlu: "Mae angen riportio unrhyw ymosodiad o'r fath ar unwaith i'r heddlu neu'r ffermwr, er mwyn sicrhau bod yr anifail yn cael triniaeth ac osgoi dioddefaint diangen."

"Bydd defaid yn aml yn cuddio am gyfnod hir ar ôl cael eu herlid, a dyna pam mae angen i'r ffermwr gyrraedd y lleoliad cyn gynted â phosibl."

"Pan fydd defaid yn cael eu gwasgaru dros ardal helaeth, yn aml nid ydynt yn cael eu gwirio am ddyddiau neu wythnosau ar y tro, a dyna pam mae'n bwysig bod unrhyw ymosodiadau yn cael eu riportio yn brydlon."

Mae SCCH Evans yn annog unrhyw un sy'n cerdded o gwmpas da byw yng nghefn gwlad i gadw eu cŵn ar dennyn ac i gadw rheolaeth agos yn unol â Diwygiad Cŵn (Deddf Diogelu Da Byw) 2025.

Ychwanegodd: "Gall caniatáu i gi erlid da byw achosi straen, ofn ac anaf sylweddol - ac mae'n drosedd."

"Dim ond perchennog y ci sy'n gallu atal ymosodiad rhag digwydd, a byddwch chi'n n cael eich cosbi os nad ydych yn gallu rheoli eich anifail."

"Mae bod yn berchennog cyfrifol ar gŵn yn allweddol wrth ymdrin hefo'r digwyddiadau ofnadwy hyn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Nia Griffith

    7:00pm - 9:00pm

    Sgwrs a cherddoriaeth da yng nghwmni Nia ar nos Lun.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'