Porthladd Rhydd: gwaith yn dechrau ar safle Peboc

Monday, 21 September 2026 11:52

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae gwaith wedi dechrau ar adfywio safle hen waith cemegol fel rhan o Borthladd Rhydd Ynys Môn.

Mae disgwyl creu dros 140 o swyddi amser llawn ar hen safle Eastman (Peboc) ar gyrion Llangefni, a gafodd ei chau yn 2008.

Yn ôl Cyngor Môn, mae safle wyth acer yn parhau i fod yn lleoliad strategol ar gyfer twf economaidd fel un o safleoedd tir llwyd mwyaf amlwg yn yr ardal.

Mae caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i dderbyn ar gyfer saith uned fusnes fodern fel rhan o'r prosiect werth £19.1 miliwn.

Dyweddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Dyma gyfle cyffrous i Langefni ac Ynys Môn."

"Drwy dderbyn Cyllid Cyfalaf Sbarduno, a gyda chefnogaeth ein partneriaid yn Uchelgais Gogledd Cymru trwy Fargen Twf Gogledd Cymru, rydym yn cymryd cam pwysig arall tuag at wireddu'r prosiect economaidd arwyddocaol hwn."

"Nid yw safle Peboc wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd. Mae cyfle bellach i'w drawsnewid yn rhywle fydd yn gallu cynnal busnesau newydd, swyddi o ansawdd a buddsoddiad."

"Trwy gydweithio â'n partneriaid drwy Borthladd Rhydd Ynys Môn ac Uchelgais Gogledd Cymru, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer datblygiad fydd yn darparu buddion economaidd hirdymor ar gyfer Llangefni, Ynys Môn a'r rhanbarth ehangach."

Mae gwaith ar y gweill i glirio safle Peboc a'i baratoi ar gyfer datblygiad yn y dyfodol; bydd y gwaith hefyd yn cynnwys adeiladu mynedfa newydd drwy stad ddiwydiannol Tregarnedd.

Bydd yn dod yn un o chwe safle treth ac arferion tollau fel rhan o'r porthladd rhydd, sy'n cynnwys hen ffatri bromin Octel yn Amlwch a hen ddepo olew Shell yn Rhosgoch, ynghyd â 'pharc ffyniant' yng Nghaergybi sy'n cynnwys hen safle Alwminiwm Môn.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y pedair blynedd nesaf i helpu'r safleoedd i baratoi ar gyfer buddsoddiad gan y sector preifat.

Dyweddod Christian Branch, pennaeth datblygu economaidd Cyngor Môn: "Roedd sicrhau perchnogaeth o'r safle yn garreg filltir arwyddocaol yn dilyn blynyddoedd o waith gan y cyngor a'i bartneriaid."

"Gallwn yn awr ddechrau paratoi'r safle i'w ailddatblygu, gan fynd i'r afael â materion hirdymor wrth greu cyfleoedd ar gyfer twf, buddsoddiad a chyflogaeth yn y dyfodol. Dyma gam sylweddol ymlaen yn ein gweledigaeth i ddod â'r safle pwysig hwn yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol."

Mae cyllid sbarduno Porthladd Rhydd Ynys Môn a buddsoddiad gan Uchelgais Gogledd Cymru, drwy raglen Bargen Twf Gogledd Cymru, yn cefnogi'r gwaith.

Mae'r cwmni Read Construction wedi cael eu penodi'n gontractwyr ar safle Peboc.

Ychwanegodd y Cynghroydd Mark Pritchard, cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru: "Bydd dod â hen safle Peboc yn ôl i ddefnydd yn cefnogi twf economaidd, yn denu buddsoddiad ac yn creu cyfleoedd i fusnesau a chymunedau ar draws Ynys Môn a'r rhanbarth ehangach."

"Rydym yn falch fod Bargen Twf Gogledd Cymru'n gallu cefnogi'r prosiect pwysig hwn wrth iddo symud i'r cam cyflawni."

Meddai Karen Heaton-Morris, cyfarwyddwr Read Construction: "Fel contractwr o Ogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i wneud y gorau o gyfleoedd cyflogaeth lleol a defnyddio partneriaid yn y gadwyn gyflenwi o fewn y rhanbarth lle bynnag y gallwn."

"Bydd y gwaith galluogi'n helpu i ddatgloi potensial hirdymor y safle a chreu'r sylfeini ar gyfer buddsoddiad, twf busnesau a chreu swyddi ar Ynys Môn yn y dyfodol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Nia Griffith

    7:00pm - 9:00pm

    Sgwrs a cherddoriaeth da yng nghwmni Nia ar nos Lun.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'