Mae dyn o Bwllheli wedi cael ei garcharu am anwybyddu gorchymyn atal.
Roedd Daniel Griffiths wedi cael Gorchymyn Dioglu Rhag Trais Domestig (DVPN) ar 1 Medi, a oedd yn ei wahardd rhag cysyltu â ddynes.
Ond llai na pythefnos yn ddiweddarach, targedodd Griffiths y dynes tra oed hi'n aros am fws.
Dilynodd hi ar y bws ac yna parhaodd i'w dilyn oddi ar y bws a tuag at ei chyfeiriad cartref, ac yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd hyn peri gofid i'r dynes.
Cafodd Griffiths, 52 oed, ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Dywedodd Arolygydd Ardal Iwan Jones: "Byddwn yn parhau i ddefnyddio pob pŵer sydd ar gael i ni i amddiffyn menywod a merched rhag trais."
"Byddwn yn gweithredu ar union a rhoi unigolion sydd yn torri neu anwybyddu Gorchmynion o flaen y Llysoedd er mwyn diogelu unigolion."


Cyhuddo dau ddyn ar ôl cyrchoedd cyffuriau
Rhybudd i berchnogion cŵn ar ôl ymosodiadau ar ddefaid
Jenner yw arweinydd newydd Reform yng Nghymru
Porthladd Rhydd: gwaith yn dechrau ar safle Peboc
Caergybi: carcharu dyn am ymddygiad rheolaethol