Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad ger tafarn yn Llanfrothen.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal ger y Brondanw Arms, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Y Ring, tua 11yh ar nos Sadwrn 30 Awst, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad a arweiniodd at anafu un dyn yn ddifrifol.
Mae dyn 61 oed a dyn 40 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau.
Yn ôl ditectifs, mae'n bosibl bod y digwyddiad wedi'i ffilmio ar ffôn symudol.
Dywedodd PC Aled Morris o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ymchwiliadau i'r digwyddiad hwn yn parhau ac rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd yr ymosodiad i gysylltu â ni."
"Yn ogystal, credwn y gallai'r digwyddiad hwn fod wedi'i ffilmio ar ffôn symudol, felly apeliwn ar unrhyw un sydd â thystiolaeth ar ffilm i gysylltu â ni trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 25000720697."


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir