Llofruddiaeth Caergybi: terynged i 'ddyn teulu'

Tuesday, 20 October 2026 at 13:11

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae teulu dyn 53 oed a fu farw mewn fflat yng Nghaergybi wedi talu teyrnged iddo.

Cafodd corff Michael Ward ei ddarganfod gan barameddygon yn Llys Watling ar Ffordd Llundain yn oriau mân bore Sadwrn.

Mae ei fab, Martin Ward, 33 oed, wedi cael ei gyhuddo o'i lofruddio, a bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.

Mewn datganiad byr trwy'r heddlu, dywedodd teulu Mr Ward: "Roedd ein tad yn ddyn teulu cariadus hefo calon fawr. Bydd colled fawr ar ei ôl."

Ychwanegodd: "'Da ni'n gofyn i bobl barchu ein preifatrwydd ni yn y cyfnod anodd hwn wrth i ni ddod i delerau hefo ein colled ni."

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau â’u hymchwiliad llofruddiaeth, ac mae swyddogion yn parhau i fod yn lleoliad y farwolaeth i gynnig sicrwydd i drigolion lleol.

Dywedodd y Prif Ditectif Arolygydd Richard Sidney ddydd Llun: "Hoffwn i ddiolch i'r gymuned leol am eu help tra bod ein hymholiadau ni’n parhau."

"Mae’r heddlu’n parhau i fod yn bresennol yn yr ardal at er mwyn tawelu meddwl y gymuned."

"Gan fod cyhuddiadau bellach wedi cael eu hawdurdodi yn yr ymchwiliad hwn, byddwn ni’n annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â chyhoeddi unrhyw beth ar-lein a allai fod yn niweidiol i achos llys yn y dyfodol neu danseilio'r broses cyfiawnder troseddol."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r farwolaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu‘r rhif cyfeirnod 26000852942.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • 70's Rewind with Ian

    7:00pm - 10:00pm

    For one night only, the 70's Rewind is back!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'