Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar

Wednesday, 2 September 2026 18:02

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Doreen Morris, sy'n parhau heb ei ddatrys.

Cafwyd hyd i'w chorff yn ei byngalo wedi'i ddinistrio gan dân yng nghyffiniau Caergybi ym mis Mawrth 1994.

Mi ganfuwyd Joseph Carl Westbury yn ddieuog o’i llofruddiaeth ym 1995, ac mi wadodd dorri i fewn i’w chartref ar Lôn y Felin. Mi laddodd ei hun ym mis Mai 2016.

Yn 2023, cofnodwyd rheithfarn o ladd anghyfreithlon gan reithgor mewn cwest yng Nghaernarfon. Cafodd Mrs Morris ei thrywanu â fforc ar ôl iddi ddod o hyd i ladron yn ei chartref.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn cynnal adolygiad troseddau difrifol i'r achos.

Cafodd tair dynes ac un dyn o Ogledd Cymru eu harestio fore Mercher ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae teulu Mrs Morris wedi cael gwybod.

Yn ôl y uwch swyddog adolygu, mae canlyniadau fforensig, ynghyd ag adolygiad trylwyr o dystiolaeth y tystion, wedi cynhyrchu rhesymau dros gyfweld pedwar o bobl o dan amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder fel rhan o adolygiad parhaus o’r achos.

Dyweddod Mark Pierce o Heddlu Gogledd Cymru: "Drwy gydol yr adolygiad, mae ein meddyliau ni wedi bod efo teulu Mrs Morris, a dwi’n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos nad oes ots faint o amser sydd wedi mynd heibio, mi wnawn ni geisio cyfleoedd newydd bob amser er mwyn cael cyfiawnder ar gyfer dioddefwyr a’u teuluoedd nhw."

Mae ditectifs yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddefnyddio Ymgyrch Epose fel cyfeirnod.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'