Mae myfyrwyr yn Ynys Môn a Gwynedd wedi bod yn derbyn eu canlyniadau Lefel A/AS a chymwysterau eraill.
Mae Cyngor Môn wedi llongyfarch myfyrwyr am eu "gwaith caled, ymrwymiad a gwytnwch" drwy gydol eu hastudiaethau.
Dyweddod Aaron C Evans, cyfarwyddwr addysg y cyngor sir: "Mae eich canlyniadau yn adlewyrchu'r ymdrech, gwaith caled ac ymrwymiad yr ydych wedi'i ddangos drwy gydol eich astudiaethau."
"Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad gwerthfawr yr athrawon, staff cefnogi, teulouoedd a'n partneriaid ehangach. Drwy gydweithio, rydym yn creu'r amgylchedd cadarnhaol a chefnogol sy'n galluogi pobl ifanc i ffynnu a llwyddo."
"I unrhyw un sy'n ansicr am y camau nesaf, mae cefnogaeth ac arweiniad yn parhau i fod ar gael drwy'r ysgolion a Gyrfa Cymru. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan."
Ar draws Cymru, bu cynnydd bach yn nifer y canlyniadau Lefel A uchaf o'i gymharu â'r llynedd ac roedd cynnydd hefyd yn nifer y ceisiadau Lefel A ac AS.
Dyweddod Gwern ap Rhisiart, pennaeth addysg Cyngor Gwynedd: "Mae'n bleser gen i eto eleni ddatgan fy malchder gyda chanlyniadau ysgolion Gwynedd gyda Lefel A, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol cyfatebol."
"Llongyfarchiadau mawr i'r myfyrwyr a'r athrawon ar eu llwyddiant."
"Diolch arbennig i'r ysgolion a'r athrawon am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad parhaus, i'r myfyrwyr am eu hymdrechion sylweddol ac i'w teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus. Mae cyfraniad pob un yn allweddol i'r llwyddiant rydym yn ei nodi heddiw."
Ychwanegodd Cefin Campbell, y dirpwy weinidog dros sgiliau: "Fe ddylech fod yn hynod falch o'r hyn 'dych chi wedi'i gyflawni. P'un a ydych chi'n mynd i'r brifysgol, am ddilyn prentisiaeth, yn dechrau mewn cyflogaeth neu'n ystyried eich camau nesaf, mae digon o gyfleoedd cyffrous o'ch blaenau."
"Dw i hefyd eisiau cydnabod y gefnogaeth ddiwyro gan athrawon a staff addysg y mae eu hymdrechion wedi chwarae rhan hanfodol yng nghamp y dysgwyr hyn."


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir