Myntho: beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad

Monday, 27 April 2026 13:59

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Colin Pyle)

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ym Mynytho, ger Pwllheli.

Roedd yr B4113 ar gau am sawl awr ddydd Sadwrn yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen Polo coch a beic modur Yamaha du tua 3yp.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, bu farw dyn 67 oed yn y fan a'r lle "er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys".

Mae teulu'r beiciwr a chrwner Gogledd Orllewin Cymru wedi cael gwybod.

Dywedodd Ditectif Rhingyll Liam Morris o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Hoffwn ddiolch i aelodau o’r cyhoedd a gynorthwyodd yn y fan a’r lle ar ôl y digwyddiad hwn."

"Rwy’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad â’r heddlu eisoes i ddod ymlaen."

"Hefyd, dylai unrhyw un sydd â ffilm dashcam a allai fod wedi dal y naill gerbyd neu’r llall cyn y gwrthdrawiad gysylltu â’r heddlu."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y ddamwain, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000326787.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'