Mae nam trydanol wedi cael y bai am gynnau tân yng nghanol tref Caernarfon.
Cafodd tri chriw tân eu galw i adeilad gwag gyferbyn a thafarn Wetherspoons ar Stryd y Porth Fawr nos Wener diwethaf.
Ni chafwyd unrhyw adroddiadau am unrhyw anafiadau.
Dyweddod llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Cawsom alwad am 20.08 nos Wener i adroddiad am dân mewn adeilad adfeiliedig yng Nghaernarfon."
"Mynychodd dau griw o Gaernarfon ac un o Fangor y digwyddiad a derbyniwyd y neges fod y digwyddiad o dan reolaeth am 22.27 yr un noson."
"Y gred yw bod y tân wedi'i achosi gan nam trydanol."


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr