'Neges mewn Potel' ar gael yng Ngwynedd

Tuesday, 23 June 2026 11:25

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae trigolion Gwynedd sydd â chyflyrau meddygol yn cael eu hannog i ymuno â chynllun a allai arbed amser mewn argyfwng.

Mae 'Neges mewn Potel' ('Message in a Bottle') wedi'i chynllunio i gadw manylion bersonol a meddygol hanfodol lle mae'r gwasanaethau brys yn gwybod i edrych amdano mewn argyfwng.

Mae'r cynllun, a grëwyd gan Lions Clubs International British Isles, yn cynnwys ffurflen i gofnodi manylion megis alergeddau, cyflyrau iechyd, meddyginiaeth, a chysylltiadau brys. Mae'r cyfan yn cael ei gadw'n ddiogel mewn potel fach gyda chroes werdd arni yn yr oergell.

Mae sticeri â chroes werdd hefyd yn cael eu darparu i'w harddangos yn y cartref, gan dynnu sylw'r gwasanaethau brys at bresenoldeb y botel.

Os bydd angen triniaeth yn yr ysbyty, gellir trosglwyddo'r 'Neges mewn Potel' i staff yn yr ysbyty.

Yn lleol, mae Cyngor Gwynedd yn barod wedi dechrau dosbarthu poteli i drigolion sy'n derbyn gwasanaethau gofal neu deleofal gan yr awdrudod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod y cabinet dros iechyd a llesiant: "Mae'r cynllun yn ffordd syml ond hynod effeithiol o sicrhau bod gwybodaeth hanfodol ar gael i'r gwasanaethau brys."

"Gall wneud gwahaniaeth mawr mewn argyfwng, gan roi tawelwch meddwl i unigolion a'r rhai sy'n goflau amdanynt."

"Dwi'n falch iawn ein bod wedi derbyn nawdd gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer cynllun pwysig fel yma a fydd yn gwneud gwahaniaeth i drigolion Gwynedd a'u teuluoedd."

Mae poteli hefyd ar gael yn rhad ac am ddim yn y dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli) neu llyfrgelloedd ar draws y sir.

Os ydych chi'n rhywun sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl - boed yn aelod o'r teulu, cymar neu ffrind cofiwch fod cerdyn adnabod ar gael.

I gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Cefnogi Gofalwyr, sy’n darparu ystod o gymorth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl, ewch i wefan Cyngor Gwynedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Dai Sinclair

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Cychwynnwch eich diwrnod gyda Dai Sinclair ar MônFM. Cerddoriaeth, newyddion lleol, y diweddaraf i deithwyr, a llawer mwy!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'