Mae arolygwyr wedi croesawu 'newidiadau sylweddol' yn Ysgol Friars ym Mangor, yn dilyn euogfarn y pedoffeil Neil Foden.
Ond mae cyfraddau presenoldeb yn gostwng ac maent yn parhau i fod islaw cyfraddau presenoldeb ysgolion tebyg.
Mae'r ysgol a Chyngor Gwynedd wedi croesawu'r addrodiad ac wedi ymrwymo i gryfhau meysydd ble mae lle i wella.
Dywedodd Margaret Davies, pennaeth dros dro Ysgol Friars: "Roedd yn braf croesawu y tîm o Estyn yma i’r ysgol ar ôl hanner tymor mis Chwefror, a chael cyfle i ddangos su’r mae’r disgyblion a’r staff yn cyfrannu tuag at wneud yr ysgol yn le arbennig."
"Yn ystod yr ymweliad, bu’r arolygwyr yn cyfweld staff a llywodraethwyr, yn siarad â disgyblion ac yn edrych ar eu gwaith, yn ymweld â’r rhan fwyaf o wersi, ac yn craffu ar ein polisïau a’n gweithdrefnau. Roedd hyn yn ychwanegol i anfon holiaduron at rieni a gofalwyr, disgyblion, staff a llywodraethwyr."
"Rydym yn falch iawn o ganfyddiadau’r adroddiad, sy’n dyst i ymrwymiad a gwaith caled disgyblion a staff Ysgol Friars."
"Wrth gwrs, nid da lle gellir gwell ac mae’r adroddiad yn nodi’r meysydd lle mae angen i ni barhau i wella. Rydym yn croesawu’r argymhellion hyn ac wedi ymrwymo’n llawn i fynd i’r afael â hwy yn drylwyr ac yn effeithiol."
‘Nol ym mis Chwefror, fel rhan o’r ymweliadau rheolaidd mae pob ysgol yng Nghymru yn eu cael, cynhaliwyd adolygiad manwl o safon yr addysgu a’r dysgu; lles, gofal, cymorth ac arweiniad o fewn yr ysgol; ac o drefniadau arwain a gwella.
Dyma oedd yr arolygiad cyntaf o Ysgol Friars ar ôl i Foden gael ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin rhywiol yn erbyn merched rhwng 2019 a 2023.
Yng nghrynodeb eu hadroddiad, mae’r adolygwyr yn nodi: "Yn dilyn cyfnod hynod anodd, gwnaed newidiadau sylweddol mewn arweinyddiaeth a llywodraethu yn Ysgol Friars."
"Ers ei phenodi ym mis Ebrill 2025, mae’r pennaeth wedi canolbwyntio ar gryfhau systemau diogelu a bugeiliol, ailsefydlu prosesau sicrhau ansawdd a rhoi pwyslais cryf ar ailadeiladu ymddiriedaeth a meithrin diwylliant cynhwysol."
"Mae’r rhaglen dra ystyriol hon o newid yn sicrhau gwelliannau mewn addysgu ac yng ngallu arweinwyr canol i werthuso darpariaeth a dysgu o fewn eu meysydd cyfrifoldeb."
"Mae arweinyddiaeth yn gynyddol gydlynol a chydweithredol. Mae staff a llywodraethwyr yn ymroddgar ac yn gefnogol i weledigaeth y pennaeth a’r newidiadau a roddwyd ar waith gan yr uwch dîm arwain."
Mae'r arolygwyr yn ychwanegu fod ymddygiad disgyblion yn dda; ac fod yr ysgol yn darparu amgylchedd ofalgar gyda darpariaeth ar gyfer anghenion emosiynol a dysgu disgyblion.
Cyfeiria’r adroddiad hefyd at y ffaith fod yr ysgol yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg ar draws y cwricwlwm.
Ond mae pryderon ynghylch gwendidau mewn cynllunio yn ystod 'lleiafrif o wersi', gan nodi: "nid yw athrawon bob amser yn cynllunio’n ddigon gofalus i sicrhau cynnydd cyson ac nid ydynt yn gweddu cyflymdra’r dysgu i anghenion disgyblion yn ddigon da".
Ar bwnc cyfraddau presenoldeb, dywed yr adroddiad: "Megis dechrau goruchwylio a monitro presenoldeb yn strategol y mae arweinwyr, ac ni sicrhawyd digon o welliant yn yr agwedd bwysig hon."
Mae'r adroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad:
- Cryfhau’r arweinyddiaeth strategol a sut cydlynir dulliau i wella presenoldeb disgyblion
- Gwella’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn gynyddol ar draws y cwricwlwm
- Sicrhau bod addysgu yn gyson yn herio disgyblion i wneud cynnydd cryf
- Cryfhau’r cynllunio ar gyfer y Gymraeg, yn cynnwys cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r iaith ar draws y cwricwlwm
Dywed Estyn y bydd yr ysgol yn creu cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag argymhellion yr arolygwyr.
Ychwanegol Elin Walker Jones, cadeirydd bwrdd llywodraethol Ysgol Friars: "Diolch i arolygwyr Estyn am eu gwaith manwl a phroffesiynol."
"Talaf deyrnged i staff yr ysgol gan fod yr adroddiad hwn yn adlewyrchu eu hymroddiad a’u brwdfrydedd a diolch hefyd i deuluoedd ein disgyblion a’r gymuned ehangach am eu cefnogaeth barhaus."
"Wrth i ni gyd edrych tua’r dyfodol, mae’r adroddiad hwn yn gam arall ymlaen wrth i ni gyd-weithio er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth addysgol, cymunedol a llesiant orau i’n pobl ifanc."


Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi
Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach