Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio yn dilyn cyrch cyffuriau yn Niwbwrch.
Yn ôl yr heddlu, cafodd swm sylweddol o gyffuriau ac arian parod eu hatafelu mewn cyfeiriad ddydd Iau oherwydd ymchwiliad rhagweithiol gan swyddogion cymdogaethau.
Cafodd dyn 26 oed ei gyfweld ar amheuaeth o feddu hefo bwriad i gylflenwi cyffur dosbarth B a gwyngalchu arian.
Mae wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’n parhau.
Dywedodd Rhingyll Dylan Thomas o Heddlu Gogledd Cymru: "’Da ni’n diolch i aelodau o’r cyhoedd am eu help parhaus nhw a’u gwybodaeth nhw sydd yn ein helpu ni ddod â chyffuriau oddi ar strydoedd Ynys Môn."
"’Da ni’n annog trigolion barhau i ddod ymlaen hefo unrhyw bryderon ynghylch cyflenwi cyffuriau yn eu cymunedau nhw. Fe wnawn ni ymchwilio i wybodaeth sy’n cael ei derbyn yn llawn."


Ysgoloriaeth i artist ifanc o Ddeiniolen
Plaid yn cadw sedd Bro’r Llynnoedd
Tystiolaeth newydd i amddiffyn bywyd gwyllt morol
Cyhuddo dyn o ladrad ym Mangor
Caergybi: cyhuddo dyn o drais domestig