Mae busnesau lleol yn Llangefni yn paratoi i gynnal parti traeth yng nghanol y dref y penwythnos hwn.
Mae gŵyl Llan y Môr ar ddydd Sadwrn (13 Mehefin), wedi’i threfnu gan grŵp Siopau Llangefni sy’n cynrychioli adwerthwyr annibynnol yn y dref.
Mae mynediad am ddim i'r ŵyl ym maes parcio Neuadd y Dref Llangefni, a fydd yn cynnwys gweithgareddau ac adloniant drwy gydol y dydd.
Mae uchafbwyntiau'n cynnwys cystadlaethau castell tywod, crys gwirion a 'Nain Llan', ynghyd â ras hwyaid ar Afon Cefni, sioe pyped, castelli neidio, ffair fach a phaentio wynebau.
Bydd MônFM yn darparu cerddoriaeth drwy gydol y dydd gyda bwyd a lluniaeth ar y safle, gan gynnwys bariau, faniau a Mônuts Mr Holt, tra bydd ffair grefftau hefyd yn cael ei chynnal yn Neuadd y Dref.
Mae trefnwyr hefyd yn annog ymwelwyr i ddod â cadeiriau haul eu hunain ac i ymuno â'r ras hwyaid (dechrau am 4pm) trwy brynu hwyaden am £2 gan un o saith busnes sy'n cymryd rhan yn Llangefni - Cain, The Coffee Hut, Sew Picturesque, Bwtîc MD, Cigyddion J Thomas, Gwalia Deli a salon On Point.
Cynhelir Llan y Môr rhwng 11am a 7pm ddydd Sadwrn ac mae mynediad am ddim. Bydd maes parcio Neuadd y Dref ar gau o 4pm ddydd Gwener tan fore Sul er mwyn caniatáu i'r ŵyl gael ei sefydlu a'i dadrigio.



Penmon: darganfod corff wrth chwilio am ddynes ar goll
Carcharu dyn o Abersoch am ddwyn o siopau
Gwaith yn dechrau ar gampws Ysgol Bontnewydd
Pont Sanau newydd yn agor
Trydydd groesfan Menai: gweinidogion i ystyried opsiynau