Mae corff wedi cael ei ddarganfod ym Mhenmon yn dilyn chwilio am ddynes ar goll dros nos.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.
Nid yw'r corff wedi'i adnabod yn ffurfiol ond mae teulu'r ddynes sydd ar goll wedi cael gwybod.
Maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt arbenigol.
Mae crwner lleol Gogledd Orllewin Cymru hefyd wedi cael gwybod am yr farwolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae ein meddyliau gyda anwyliaid y ddynes yn ystod yr amser anodd hwn.”
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr