Plaid yn cadw sedd Bro’r Llynnoedd

Friday, 31 July 2026 03:44

By Ystafell Newyddion MônFM

Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi cadw sedd yn ward Bro'r Llynnoedd ar Gyngor Môn yn dilyn isetholiad.

Etholwyd Jon Paul Taylor i'r sedd wag gyda 551 o bleidleisiau yn y bleidlais ddydd Iau - mwyafrif o 105 dros ymgeisydd Reform UK, Richard John Jones, sydd yn ail safle.

Cafodd yr is-etholiad cyngor sir ei gynnal yn dilyn marwolaeth y cyn-gynghorydd Plaid, Ken Taylor, ym mis Mai.

Dyma'r canlyniad llawn:

  • Jon Paul Taylor (Plaid Cymru): 551
  • Richard John Jones (Reform UK Cymru): 446
  • Margaret Fredericka John (Ceidwadwyr Cymreig): 93
  • Nick Bounds (Plaid Werdd Cymru): 45

Mae ward Bro'r Llynnoedd hefyd yn cael ei chynrychioli ar y cyngor gan y Cynghorydd Gwilym O Jones o'r Grŵp Annibynnol.

Dyma oedd yr ail isetholiad ar y cyngor eleni a'r cyntaf ers etholiad y Senedd ym mis Mai, lle ffurfiwyd Llywodraeth Cymru leiafrifol gan Plaid.

Ym mis Chwefror, enillodd Reform ei sedd gyntaf yn ward Ynys Gybi, lle etholwyd Celfyn Furlong yn hen sedd y diweddar Trefor Lloyd Hughes.

Gyda llai na blwyddyn i fynd cyn etholiadau’r cyngor, mae Plaid yn cadw rheolaeth gyffredinol gyda 18 sedd, gyda saith sedd yn cael eu dal gan grŵp Annibynwyr Môn, pedair sedd i’r Grŵp Annibynnol, tair sedd i Lafur Cymru a dwy sedd gan gynghorwyr annibynnol.

Yn gynharach y mis hwn, etholwyd ymgeisydd annibynnol - Rhys Parry - i Gyngor Gwynedd yn ward Llanrug, sedd a ddaliwyd gynt gan AS Plaid Beca Brown.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Anthony

    7:00am - 10:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'