Plant Môn yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr

Tuesday, 7 July 2026 17:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae dros 700 o blant o ysgolion Ynys Môn wedi bod yn dysgu am sgiliau diogelwch dŵr ac achub bywyd.

Nod Nofio Ddiogel, a gynhelir gan Môn Actif, yw helpu pobl ifanc i fagu hyder yn y dŵr a deall sut i gadw'n ddiogel.

Yn y rhaglen diweddaraf i nodi Wythnos Atal Boddi Genedlaethol, cymerodd disgyblion blwyddyn 5 a 6 ran a oedd yn cynnig sesiynau diogelwch dŵr ymarferol ac addysgol dros gyfnod o 12 diwrnod.

Mae'r cynllun wedi derbyn cyllid Gronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth y DU mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau cenedlaethol a lleol.

Dwyeddod Barry Edwards, rheolwr datblygu chwaraeon Môn Actif: "Mae'r ymgyrch Nofio Diogel yn bwysig iawn i blant a phobl ifanc Ynys Môn."

"Mae dysgu sut i gadw'n ddiogel yn y dŵr a ger yr arfordir yn sgil bywyd hanfodol i bawb sy'n byw ar ynys."

"Mae nifer y damweiniau a fu bron â digwydd a digwyddiadau peryglus ar hyd yr arfordir yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dangos pwysigrwydd y gwaith hwn."

"Drwy'r rhaglen Nofio Diogel, rydym yn rhannu gwybodaeth a helpu plant i fagu hyder a dysgu sgiliau ymarferol er mwyn iddynt allu adnabod y peryglon, gwneud penderfyniadau diogel a gwybod beth i'w wneud os ydyn nhw neu eraill yn mynd i drafferthion yn y dŵr."

"Fel sefydliadau a chymunedau, mae gennym ddyletswydd gofal i sicrhau bod yr addysg hon yn flaenoriaeth. Drwy barhau i fuddsoddi mewn sesiynau ymwybyddiaeth dŵr a sgiliau achub bywyd gallwn helpu i atal trychinebau ac achub bywydau."

Bydd y rhaglen yn parhau drwy gydol yr haf, ac bydd mwy na 500 o blant a'u teuluoedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diogelwch dŵr cymunedol, gan gynnwys diwrnod antur canŵio, gwersylloedd syrffio a phadlfyrddio.

Bydd addysg diogelwch dŵr hefyd yn rhan o'r gwersylloedd chwaraeon a fydd yn cael eu cynnal yng nghanolfannau hamdden Môn Actif drwy gydol yr haf.

Ond gyda nawdd Ffyniant Gyffredin yn dod i ben, mae Môn Actif yn chwilio am arian grant a chefnogaeth gan bartneriaid newydd i sicrhau dyfodol hirdymor i'r rhaglen Nofio Diogel. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n deiio portffolio hamdden Cyngor Môn: "Rydw i'n falch iawn o weld cymaint o blant a theuluoedd o bob cwr o Ynys Môn yn elwa o'r rhaglen ardderchog hon."

"Mae'n bwysig iawn bod pobl ifanc sy'n byw ar ynys yn datblygu parch tuag at y dŵr ac yn deall sut i fwynhau'r arfordir yn ddiogel."

"Mae'r fenter yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr ac achub bywyd hanfodol, yn ogystal ag annog plant a theuluoedd i fod yn heini, magu hyder a mwynhau'r cyfleoedd y mae'r amgylchedd naturiol sydd o'n hamgylch yn eu cynnig."

"Mae llwyddiant y rhaglen Nofio Diogel yn dyst i'r hyn sy'n bosib drwy gydweithio, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddarparu'r gweithgareddau hyn."

"Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyfleoedd i helpu i greu Ynys Môn sy'n fwy diogel, iach a heini er lles y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol."

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi'r rhaglen - gan gynnwys busnesau lleol, sefydliadau a noddwyr posibl - anfon e-bost at datblyguchwaraeon@ynysmon.llyw.cymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'