Mae Pont Sarnau newydd sy'n cysylltu Bethesda a Thanysgafell wedi'i hagor yn swyddogol i'r cyhoedd.
Mae'r strwythur 26 metr yn disodli'r hen bont droed, a oedd yn gyswllt allweddol i gerddwyr yn Nyffryn Ogwen am ymhell dros ganrif.
Cafodd yr hen bont ei dymchwel y llynedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes, yn ôl Cyngor Gwynedd.
Mae'r bont newydd yn rhan o gynllun datblygu Llewyrch o'r Llechi gwerth £32 miliwn - a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth y DU - yn dilyn rhoi statws treftadaeth y byd i dirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Dyweddod y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros amgylchedd: "Rydw i'n falch iawn o weld Pont Sarnau newydd yn agor i'r cyhoedd."
"Dyma brosiect sy'n amlygu ein bod fel cyngor am wella cyfleoedd teithio cynaliadwy – gan gynnig opsiynau teithio ar droed neu olwyn ar gyfer teithiau dydd i ddydd ac ar gyfer hamddena."
"Mae Lôn Las Ogwen yn adnodd gwerthfawr iawn yma yn yr ardal, ac yn dilyn gwelliannau i bontydd troed yn ardal Porth Penrhyn a gwella hygyrchedd y llwybr yn y misoedd diwethaf."
"Dyma'r cam diweddaraf mewn rhaglen ehangach o welliannau, ac rwy'n obeithiol y byddwn yn gweld rhagor o ddatblygiadau i wella llwybrau beicio a cherdded yn Nyffryn Ogwen yn y blynyddoedd i ddod."

Ynghyd â chyngor sir, roedd cynrychiolwyr o Gyngor Tref Bethesda, Fforwm Mynediad Lleol Arfon a Dwyfor, y prif gontractwr OBR Construction ac eraill yn bresennol ar gyfer yr agoriad.
Ychwanegodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, cadeirydd Cyngor Gwynedd: "Mae'r prosiect hwn yn ffrwyth llafur cydweithio arbennig ar draws adrannau'r cyngor ac â'n partneriaid."
"Roeddwn i'n hynod falch o fod yn rhan o agor y bont newydd - mae'n dod â buddion amgylcheddol, iechyd a chymdeithasol i'r ardal, ac rydym yn falch iawn o weld y cyswllt pwysig hwn ar agor unwaith eto."
Mae gwaith hefyd wedi digwydd yn yr ardal i greu tanffordd wartheg (cattle underpass), a olygodd fod modd tynnu chwech giât oedd ar drywydd Lôn Las Ogwen.
Dywed y cyngor ei fod yn golygu fod defnydd y Lôn Las yn fwy hwylus, tra hefyd yn sicrhau nad yw gweithgareddau amaethu naill ochr y Lôn Las yn cael eu heffeithio.

Dyweddod y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros y gymuned: "Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi bod yn safle treftadaeth y byd UNESCO ers Gorffennaf 2021, ac un o'n prif amcanion wrth sicrhau'r statws oedd cefnogi adfywio ein cymunedau llechi yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol, gan ddathlu rôl unigryw'r ardal."
"Ond nid y chwarel yn unig oedd yn bwysig, roedd y cysylltiadau trafnidiaeth – y rheilffordd a Phorth Penrhyn yn hollbwysig i'r diwydiant."
"Mae Lôn Las Ogwen yn barhad o'r treftadaeth hwnnw, ac yn sicrhau gwerth pellach i'w gwaddol hwnnw er budd pobl Dyffryn Ogwen a rheini sy'n ymweld â'r ardal."


Penmon: darganfod corff wrth chwilio am ddynes ar goll
Carcharu dyn o Abersoch am ddwyn o siopau
Gwaith yn dechrau ar gampws Ysgol Bontnewydd
Parti traeth yn dod i Langefni
Trydydd groesfan Menai: gweinidogion i ystyried opsiynau