Mae Pont y Borth wedi ailagor yn dilyn croesiad arall gan gerbyd gorbwysau.
Am yr ail dro mewn pyftehnos, torrwyd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell fore Mawrth.
Cafodd yr bont ar gau tan tua 12.15yp, yn ôl Traffig Cymru. Dwyeddod llefarydd: "Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig. Hoffwn eich hatgoffa mai cerbydau o dan 7.5t yn unig sy’n cael croesi Bont y Borth."
Yn ystod y cau, roedd traffig trwm ar yr A55 a'r A487 o amgylch Pont Britannia.
Daw cau diweddaraf y bont ar bedwerydd diwrnod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gynhelir ar faes Sioe Ynys Môn ym Mona, ger Gwalchmai.
Cyn dechrau'r ŵyl, dywedodd trefnwyr yr Urdd eu bod yn ymwybodol o gyfyngiadau diweddar ar Bont y Porth, gan ychwanegu eu bod mewn "cyfathrebu parhaus" ag awdurdodau lleol i "leihau unrhyw effaith" ar bobl sy'n teithio i'r Maes.
Dwyeddod llefarydd ddydd Mawrth: "Rydym yn ymwybodol bod Pont Menai wedi cau y bore yma tra bod archwiliad yn cael ei gynnal. Mae tagfeydd hefyd ar yr A55 i’r ddau gyfeiriad."
Ychwanegodd: "Gofynnwn i bawb adael digon o amser ychwanegol wrth deithio i’r Eisteddfod heddiw, a sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer y daith a diwrnod ar y Maes."
Mae 'na ciwiau ar yr A5 ger Mona ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog gyrwyr i gynllunio ymlaen llaw a disgwyl oediadau posib yn ardal Gwalchmai drwy gydol yr wythnos.
Mae’r B5420 Penmynydd hefyd wedi cau oherwydd tân cerbyd, ac mae’r Cyngor Môn yn annog pobl a oedd yn bwriadu defnyddio’r ffordd hon i ddefnyddio’r A5025 o Four Crosses i Bentraeth ac yna’r B5109 o Bentraeth i Langefni.


Ymchwiliad i lofruddiaeth yn Abermaw: arestio dyn
Caernarfon: arestio tri yn dilyn byrgleriaeth
Heledd yn ennill Medal y Cyfansoddwr
Prif Weinidog yw Llywydd Dydd Mawrth
Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol