Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ym mhentref Porth Llechog ger Amlwch.
Yn ôl yr heddlu, roedd y Nissan Micra coch yn cael ei yrru o gyfeiriad Amlwch a gwrthdarodd â wal ar yr A5025 toc wedi 1.30yp brynhawn Gwener.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cyhoeddwyd bod oedd yn teithio yn y car wedi marw yn y fan a'r lle. Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.
Fe gafodd y ddynes oedd yn gyrru'r car ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gyda mân anafiadau.
Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr Cymru, eu galw i'r lleoliad a cafodd y ffordd ei chau am gyfnod.
Dywedodd y Rhingyll Leigh McCann o’r Uned Troseddau Ffyrdd: "Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn yn ystod yr amser anodd hwn."
"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A5025 drwy Borth Llechog ac sydd hefo lluniau camera dashcam o’r gwrthdrawiad, gan gynnwys y cyfnod cyn y digwyddiad, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r wefan, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C168879.


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'