Porthaethwy: dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ

Monday, 20 April 2026 14:53

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Mae dyn 82 oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhorthaethwy.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Penmynydd tua 5.25yp prynhawn Sul.

Cafodd corff dyn eu darganfod y tu allan i'r eiddo, lle cyhoeddwyd ei fod wedi marw.

Nid yw achos y tân yn hysbys ar hyn o bryd, ond mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dechrau.

Dywedodd Mike Owen o Wasanaeth Tân: "Estynnir ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn. Mae achos y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd."

Yn ôl yr heddlu, mae crwner lleol Gogledd Orllewin Cymru hefyd wedi cael gwybod.

Cafodd criwiau tân o Fangor a Benllech eu galw i'r lleoliad, ynghyd â chriwiau'r heddlu a'r ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru o Gaernarfon.

Dwyeddod llefardd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Roeddem wedi anfon ambiwlans brys i'r safle, lle cafodd y criw eu cefnogi gan Uned Ymateb Acíwtedd Brys Cymru a rheolwr gweithrediadau.”

“Darparwyd cefnogaeth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn hofrennydd elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyn Owen

    10:00am - Noon

    Join Gwyn for two hours of music to finish the morning

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'