Mae dyn 82 oed a fu farw yn dilyn tân mewn tŷ ger Porthaethwy wedi cael ei enwi.
Darganfuwyd corff Julian Langley y tu allan i gyfeiriad ar Ffordd Penmynydd yn ardal Penhesgyn ddydd Sul 19 Ebrill.
Cyhoeddwyd ei fod o wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd dau griw tân o Fangor a Benllech eu hanfon i'r lleoliad, ynghyd â'r heddlu, criwiau ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru o Gaernarfon.
Yn ôl swyddfa crwner Gogledd Orllewin Cymru, bydd y cwest i farwolaeth Mr Langley yn cael ei agor yn ffurfiol yng Nghaernarfon ddydd Iau 7 Mai.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr