Mae ditectifs wedi apelio am dystion yn dilyn ymosodiad honedig yng nghanol tref Pwllheli.
Digwyddodd ar y ffordd rhwng siop Iceland a siop tecawê Allports ger Y Maes tua 2.50pm prynhawn Sul diwethaf (26 Gorffennaf).
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a allai fod â lluniau neu fideo o'r ardal ar gamera dangosfwrdd (dashcam), CCTV, ffôn symudol neu gamera cloch drws o gwmpas amser yr ymosodiad."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000607247.


A470: beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad
Cyhuddo tri dyn o gyflenwi cetamin
Mona yn paratoi ar gyfer Sioe Môn
Artist o Fôn yn ennill gwobr Josef Herman
Llwybr teithio llesol Cob wedi'i gwblhau