Mae'r awdurdodau'n rhybuddio pobl i gadw draw o dirlithriad ar y traeth yn Nefyn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad ger maes parcio'r traeth brynhawn Mawrth.
Mewn datganiad, dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn cynghori unrhyw un yn y cyffiniau i gadw draw o'r ardal yr effeithiwyd arni uwchben ac ar y traeth, gan y gallai mwy o dirlithriadau ddigwydd."
Mae awdurdodau, gan gynnwys yr heddlu, Gwylwyr y Glannau a Chyngor Gwynedd, yn asesu'r lleoliad "fel mater o frys".
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr