S4C i ddarlledu drama Neil Foden

Thursday, 13 August 2026 13:08

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddrama newydd am yr pedoffeil Neil Foden.

Mae cyn-bennaeth Ysgol Friars yn treulio dedfryd o 17 mlynedd yn y carchar am gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023.

Daeth adolygiad annibynnol i’r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i atal y prifathro rhag ymosod yn rhywiol ar ferched.

Bydd y ddrama dair-rhan, o dan y teitl gweithredol 'Y Pennaeth', yn cael ei darlledu y flwyddyn nesaf gyda'r actor Mark Lewis Jones yn chwarae rhan Foden.

Yn ôl y darlledwr, mae'r ddrama wedi'i datblygu dros y 18 mis diwethaf a bydd yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o’r achos cyfreithiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ac ar adroddiad 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder' gan yr arbenigwraig Jan Pickles.

Bydd y gyfres yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch ifanc sy’n cael eu cam-drin. Bydd y cymeriadau hyn, a nifer o’r golygfeydd, yn ffuglennol er mwyn diogelu goroeswyr yr achos gwreiddiol.

Dyweddod Gwenllian Gravelle, comisiynydd drama S4C: "Mae hon yn stori bwysig ac ysgytwol am sut y llwyddodd dyn mewn safle o rym ac ymddiriedaeth i fradychu’r statws hwnnw dros nifer o flynyddoedd, tra’n codi cwestiynau anodd am ddiwylliannau lle mae unigolion yn cael eu gweld fel rhai na ellir eu herio."

"Wedi’i datblygu gyda gofal a sensitifrwydd mawr, mae’r cynhyrchiad yn ymdrin â’r pwnc yn gyfrifol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ehangach brad gan ffigwr cyhoeddus a ymddiriedwyd â chyfrifoldeb a gofal."

Bydd y gyfres yn cael ei chynhyrchu gan y cwmni cynhyrchu annibynnol MOJO gyda Huw Chiswell yn cyfarwyddo a Llyr Morus yn cynhyrchu. Llinos Gerallt yw awdur y ddrama.

Bydd hefyd yn archwilio sut y gwnaeth Foden fanteisio ar sefyllfaoedd personol y merched, yn ogystal â methiannau’r gweithdrefnau diogelu, a’r cyfleoedd a gollwyd i atal troseddau pellach. 

Ychwanegodd llefarydd ar ran y sianel: "Yn ystod y broses o ymchwilio ac ysgrifennu, mae’r awdur a’r cwmni cynhyrchu hefyd yn cydweithio â newyddiadurwr, sydd yn bwynt cyswllt rhyngddynt â rhai oedd ynghlwm â’r hyn ddigwyddodd, neu wedi eu heffeithio gan y digwyddiadau."

"Yn ystod y cyfnod datblygu, ac fel mater o gwrteisi, mae’r cwmni cynhyrchu hefyd wedi bod mewn cysylltiad â Heddlu Gogledd Cymru."

"Mae'r heddlu wedi sicrhau bod holl oroeswyr yr achos llys yn ymwybodol o'r prosiect, ac mae'r cwmni cynhyrchu wedi cynnig mynediad at gefnogaeth broffesiynol iddynt."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Dai Sinclair

    3:00pm - 6:00pm

    Ymunwch â Dai am gymysgedd gwych o gerddoriaeth, sgwrs a hwyl ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'