Mae penaethiaid Cyngor Gwynedd wedi datgelu eu strategaeth gwastraff ac ailgylchu newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae adroddiad, a fydd yn cael ei drafod yr wythnos nesaf, yn nodi chwe amcan allweddol ar sut i wella cyfraddau ailgylchu, lleihau'r effaith amgylcheddol a moderneiddio gwasanaethau gwastraff yn y sir.
Yn ôl y cyngor, bydd sicrhau ffynhonnell ariannu bosibl yn hanfodol i wireddu'r strategaeth, a grëwyd yn dilyn ymgynghoriad diweddar yn cynnwys trigolion a sefydliadau lleol.
Mae prif amcanion y strategaeth, sy'n rhedeg hyd at 2030, yn cynnwys:
- Cyfathrebu ac Ymgysylltu: annog newid ymddygiad cadarnhaol drwy gyfathrebu clir gyda thrigolion a rhanddeiliaid eraill.
- Lleihau, Ailddefnyddio a Thrwsio: lleihau gwastraff wrth y ffynhonnell a hyrwyddo ailddefnyddio a thrwsio.
- Cynyddu Ailgylchu: gwella gwasanaethau a gallu i bobl waredu eitemau'n y modd mwyaf effeithlon a newid ymddygiad i wella lefelau ailgylchu.
- Darparu Gwasanaeth o Ansawdd Uchel: sicrhau gwasanaeth dibynadwy ac effeithlon drwy fuddsoddi mewn systemau a thechnoleg.
- Cyflawni Sero Net: lleihau allyriadau drwy ddatgarboneiddio'r fflyd a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
- Isadeiledd sy'n Addas i'r Dyfodol: buddsoddi mewn isadeiledd modern a strategol.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros amgylchedd: "Mae ailgylchu a gwastraff yn rhywbeth sy'n rhan o fywyd pob un ohonom ar draws Gwynedd - rhoi sbarion bwyd yn y cadi adref neu ymweld a'n canolfannau ailgylchu leol, a hyd yn oed ail-ddefnyddio neu drwsio eitemau a rhoi bywyd newydd iddynt."
"Mae'r strategaeth gwastraff ac ailgylchu yma yn nodi cyfeiriad clir yr ydym yn anelu ato fel cyngor a sir – sef ailfeddwl sut ydym yn trin ein gwastraff, nid fel problem ond fel adnodd gwerthfawr, a symud tuag at economi gylchol wirioneddol."
"Diolch i bawb wnaeth gymryd y cyfle i rannu eu barn yn yr arolwg ar y strategaeth, mi wnaeth hynny amlygu cefnogaeth i'r cyfeiriad ar gyfer atal gwastraff, pwysigrwydd ailddefnyddio ac ailgylchu, a'r angen ni fel cyngor wneud mwy i esbonio'r gwasanaethau sydd ar gael."
"Er fod heriau amgylcheddol a hinsawdd yn heriau byd-eang, mae'r strategaeth yma yn dangos sut yr ydym am chwarae ein rhan yn lleol."


Pwllheli: arestio dau mewn cyrch cyffuriau
"Cyfle olaf" i bwrdd Betsi Cadwaladr
Arestio dyn ar ôl dod o hyd i gyffuriau mewn fan
Cynllun pum mlynedd i wella cyfleusterau pêl-droed
Corff dyn wedi'i ganfod yn Eryri