Streicwyr Friction yn serennu mewn drama newydd

Thursday, 30 April 2026 12:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Bydd rhai o gyn-weithwyr Friction Dynamics yn ymddangos mewn drama deledu newydd i nodi 25 mlynedd ers eu streic hanesyddol.

Mae ffilmio wedi dechrau yn ardal Caernarfon ar gyfer 'Y Streic Fawr', cyfres tair rhan ar gyfer S4C.

Ar 30 Ebrill 2001, aeth 86 o weithwyr ffatri rhannu ceir allan ar streic mewn anghydfod ynghylch newidiadau i'w cyflog a'u hamodau gwaith.

Parahodd y brotest am bron i fil o ddiwrnodau ar ôl i'r gweithwyr gael eu diswyddo gan y perchennog Americanaidd dadleuol, Craig Smith.

Er i’r gweithwyr ennill eu hachos yn y llysoedd, ni chafodd y cwmni - a gafwyd yn euog o dorri’r gyfraith - unrhyw gosb gan Lywodraeth y DU. Ni dderbyniodd y gweithwyr yr iawndal am y ddwy flynedd ac wyth mis o fod ar y llinell biced.

Yn ôl Ffion Dafis, sgriptiwr Y Streic Fawr, mae cofnodi stori sydd mor ''arwyddocaol i Gaernarfon a'i phobol'' yn bwysig.

"Tua dwy flynedd yn ôl nes i ddarllen erthygl am streic Friction Dynamics. Roedd Llyr Morus a finnau yn gweithio ar syniad arall ar y pryd, ond ar ddiwedd un cyfarfod nes i sôn wrtho am yr erthygl a dweud mod i’n teimlo ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cofnodi’r streic."

"Aeth un sgwrs yn sgwrs arall, a dechreuais i gyfarfod y streicwyr eu hunain. Trwyddyn nhw, dwi wedi dod i adnabod eu straeon, ac mae’r rheiny wedi siapio’r sgript."

"Dwi’n falch iawn bod tair pennod bellach yn cofnodi’r hanes yma – hanes sy’n rhan annatod o’n cymuned ni yng Ngogledd Cymru."

Huw Chiswell sy'n cyfarwyddo'r gyfres newydd gyda'r prif gast yn cynnwys Rhodri Trefor fel Tomi Jones, a ddechreuodd fel siop steward cyn dod yn swyddog llawn amser i Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (TGWU) yng Ngogledd Cymru.

Mae Gruffudd Glyn yn chwarae rhan Gerald Parry, areithiwr blaenllaw yn y ralïau a oedd gysylltiedig â’r streic, tra bod Rhys ap Trefor yn portreadu John Davis, a ddewiswyd i gynrychioli’r 86 o weithwyr yn y llys.

Mae cyflwynydd MônFM, Emyr Gibson, hefyd yn ymddangos yn y cast, ochr yn ochr â Carwyn Jones, Sion Eifion, Catrin Powell, Manon Wilkinson a Betsan Ceiriog.

Ond bydd nifer o gyn-weithwyr Friction hefyd yn ymddangos yn y gyfres, gyda'r sgript yn tynnu ar eu profiadau drwy gydol yr anghydfod.

Roedd cyfle iddynt hefyd weld sut y bydd eu stori bwerus yn cael ei hadrodd ar y sgrin mewn sesiwn darllen sgript yn ddiweddar gyda’r actorion.

Meddai Llyr Morus, cynhyrchydd Y Streic Fawr: "Fel un a gafodd ei fagu yng Nghaernarfon, sy’n cofio canu corn wrth basio’r gweithwyr ar y lein a mynd i’r ralïau ar Y Maes, mae cael dweud y stori yma, a’r ffaith bod y gweithwyr wedi ymddiried yn Cynyrchiadau Mojo i wneud hynny’n fraint."

"Mae’r aberth wnaeth yr 86 o ddynion a merched bum mlynedd ar hugain yn ôl yn anferthol. Arweiniodd yr aberth yna at newid oedd am sicrhau gwell amodau gwaith i weithwyr y dyfodol, felly mae’r diolch yn fawr iddyn nhw."

"Mae nodi’r hanes yn bwysig ar gyfer addysgu cenedlaethau’r dyfodol - “Ni heddiw, Chi fory”."  

"Hyd heddiw mae effaith y streic i’w weld yng Nghaernarfon gyda ffrindiau, teuluoedd a chymunedau wedi ei chwalu. Mae’n bwysig bod y stori hon yn cael ei dweud yn onest, gyda chydbwysedd a gyda hiwmor, ffraethineb ac angerdd y Cofi."

Ychwanegodd Gwenllian Gravelle, comisiynydd drama S4C: "Mae Y Streic Fawr yn dod â stori un o’r anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw yn hanes modern Cymru’n fyw gyda grym i’n gwylwyr; stori sy’n dal i losgi oherwydd yr anghyfiawnder dwfn sydd wrth ei chraidd."

"Nid edrych yn ôl yn unig mae’r cynhyrchiad hwn - mae’n herio, yn ysgwyd, ac yn mynnu sylw. Gyda drama afaelgar a llawn tensiwn, mae’n taflu goleuni miniog ar y gwir, gan sicrhau nad yw’r hanes hwn yn pylu nac yn diflannu."

'Y Streic Fawr', cynhyrchiad Mojo ar gyfer S4C, yn cael ei ddarlledu yn hwyrach eleni.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Sarah Wynn Griffiths

    11:00pm - Midnight

    Llwyth o gerddoriaeth newydd a sgyrsiau gyda rhai o'n hoff artistiaid ni.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'