Bydd gwasanaeth coetsys dyddiol sy'n cysylltu trefi allweddol yng ngogledd a gorllewin Cymru yn cael ei lansio ym mis Hydref.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd 'TaithCymru' yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr rhwng Bangor a Chaerfyrddin fel rhan o gynlluniau ehangach i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull sydd wedi'i integreiddio'n well.
Bydd gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn stopio yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron gyda’r gwasanaeth cyntaf yn rhedeg ar ddydd Sul 25 Hydref.
Yn ôl y dirprwy weinidog trafnidiaeth Mark Hooper, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i lansio'r gwasanaeth o fewn ei 100 diwrnod cyntaf.
Dwyeddod: "Mae TaithCymru yn chwarae rôl hanfodol bwysig wrth gysylltu trefi a chymunedau, gan ei gwneud yn ffordd gyflymach, haws a mwy dibynadwy o deithio er mwyn cyrraedd gwaith, addysg a hamdden."
Mae dros £2 filiwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer blwyddyn gyntaf gweithrediadau Taith Cymru, gan gynnwys prynu wyth coets a system archebu ar-lein. Bydd pob taith yn para rhwng 4 awr 45 munud a phum awr.
Yn ogystal â gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol fel addysg a gofal iechyd, mae Taith Cymru wedi'i gynllunio i weithio ochr yn ochr â gwasanaethau presennol sy'n cynnwys TrawsCymru, gwasanaethau bysiau lleol a Fflecsi, mewn ymdrech i annog pobl i gefnu ar eu ceir.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd hefyd yn agor twristiaeth gynaliadwy i gyrchfannau allweddol fel Eryri, Penlŷn a Bae Ceredigion.

Dyweddod Lee Robinson, cyfarwyddwr gweithredol trafnidiaeth rhanbarthol gan TrC: "Mae TaithCymru yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn wrth wella cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru."
"Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau teithiau cyflymach, mwy cyfleus a mwy cynaliadwy, gan helpu pobl i gael mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a hamdden, wrth gefnogi ein huchelgais ehangach o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig i Gymru."
"Mae TaithCymru yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni'n dod at ein gilydd gyda gweledigaeth gyffredin i wella trafnidiaeth i gymunedau ledled y wlad."
"Mae'r ymrwymiad, y cydweithrediad a'r penderfyniad a ddangoswyd gan dimau ar draws Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno'r gwasanaeth hwn wedi bod yn rhagorol."
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau ar gyfer rhwydwaith bysiau newydd yng Ngogledd Cymru, a fydd yn lansio yn 2028.


Carcharu pedoffil am ymosod ar ferch
Perchnogion newydd i gwmni MAD
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr TGAU
Enwi dau bobl a fu farw mewn damwain awyren
Gosod cyn-ditectif ar restr wahardd plismona