Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio â thân mewn tŷ ym Mhorthaethwy.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Penmynydd tua 5.25yp prynhawn Sul.
Mynychodd y Ambiwlans Awyr Cymru y lleoliad hefyd, ynghyd â'r heddlu a chriwiau ambiwlans.
Cafodd criwiau tân o Fangor a Benllech eu hanfon i'r lleoliad, ond yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân, nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.
Dwyeddod llefardd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Roeddem wedi anfon ambiwlans brys i'r safle, lle cafodd y criw eu cefnogi gan Uned Ymateb Acíwtedd Brys Cymru a rheolwr gweithrediadau.”
“Darparwyd cefnogaeth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn hofrennydd elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.”
Mae MônFM wedi cysylltu â'r gwasanaethau brys i gael rhagor o wybodaeth.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi