Mae'r heddlu'n cynyddu ymdrechion i fynd i'r afael â fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Chwarel Dinorwig.
Yn ôl swyddogion troseddau gwledig, bu digwyddiadau o ddifrod troseddol a llosgi bwriadol yn y safle dros y misoedd diwethaf.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru y byddan nhw'n gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr i ddiogelu'r ardal, gan ddefnyddio mesurau diogelwch ychwanegol gan gynnwys teledu cylch cyfyng, ynghyd â chyfuniad o batrolau amlwg rheolaidd a phatrolau cudd gyda'r nod o atal a chanfod troseddau.

Mae'r chwarel wedi disgrifio fel rhan bwysig o hanes diwydiannol a diwylliannol yr ardal ac hefyd yn ffurfio rhan o dirwedd Safle Traftadaeth y Byd UNESCO - tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r safle yn cynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, sy'n golygu ei fod yn ased treftadaeth warchodedig o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol."
"Mae difrod i strwythurau ac henebion hanesyddol yn cael effaith hirdymor a gall arwain at golli nodweddion treftadaeth pwysig yn barhaol."
"Oherwydd natur y safle, mae'n cael amddiffyniad ychwanegol yn ôl y gyfraith, a gall y rhai a ganfyddir yn gyfrifol am gyflawni troseddau yno ddisgwyl cael eu trin yn gadarn."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ddifrod i safleoedd treftadaeth neu unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw.


Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi
Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach